Rhaid i gyllideb ddrafft anodd Llywodraeth Cymru sicrhau canlyniadau, meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 07/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Rhaid i gyllideb ddrafft anodd Llywodraeth Cymru sicrhau canlyniadau, meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad

7 Tachwedd 2011

Mae adroddiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi canfod nad oes llawer o le ar gyfer camgymeriadau yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.


Mae’r Pwyllgor Cyllid, sy’n cynnwys Aelodau Cynulliad o’r pedair plaid wleidyddol yn y Senedd, yn derbyn bod cyfnod anodd i ddod o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus, gyda chyllidebau’n lleihau. Fodd bynnag, oherwydd bod y cyllidebau a bennwyd mor dynn, rhybuddiodd y Pwyllgor bod pwysau ar y Llywodraeth, a’r cyrff y mae’n eu hariannu, i gael y gwerth gorau posibl o bob punt sy’n cael ei gwario.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn croesawu cynnydd Llywodraeth Cymru o ran symud tuag at ddull mwy strategol o ddyrannu ei hadnoddau cyfalaf, lle caiff arian ei ddyfarnu yn unol â blaenoriaethau cyffredinol, yn hytrach nag ar sail adrannol. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor o’r farn bod lle i wella o hyd.

“Mae’r Pwyllgor yn derbyn yr hinsawdd ariannol anodd y cafodd y gyllideb ddrafft hon ei llunio ynddi,” meddai Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

“Rydym yn pryderu nad oes llawer o le ar gyfer hyblygrwydd na chynlluniau wrth gefn os bydd gorwario.

“Rydym wedi mynegi pryderon ynghylch pa mor ddigonol yw’r gyllideb ar gyfer gwasanaeth iechyd Cymru. Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor wedi penderfynu peidio ag awgrymu unrhyw newidiadau i’r adnoddau a amlinellwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru.

“Rydym yn croesawu’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i nodi at gyflawni ac at ddatblygu cyllideb sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Fodd bynnag, rydym yn pryderu nad yw adrannau Llywodraeth Cymru, hyd yn hyn, wedi cyflawni’r ymrwymiad i ganlyniadau clir, tryloyw a mesuradwy.”

Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi gwneud 10 o argymhellion yn ei adroddiad, a fydd nawr yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.