Rhaid i Gymru fanteisio mwy ar gyfleoedd cyllid yr UE - yn ôl pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 16/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/09/2014

Mae'r gyfres ddrama ddwyieithog Y Gwyll/Hinterland yn enghraifft wych o'r modd y gall Cymru elwa ar gyfleoedd cyllid yr UE - yn ôl Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad i'r ffrydiau ariannu sydd ar gael i Gymru ar gyfer 2014-20, a hynny ar sail ei waith blaenorol ar ariannu strwythurol a Horizon 2020, sef rhaglen ymchwil newydd yr UE

Mae tua €42 biliwn (£33 biliwn) ar gael drwy'r UE drwy fentrau fel Erasmus+, INTERREG, Ewrop Greadigol, a Chyfleuster Cysylltu Ewrop, felly roedd y Pwyllgor yn awyddus i weld i ba raddau y mae gwneud y gorau o'r cyfleodd hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill.

Casglodd y Pwyllgor Menter a Busnes mai sector creadigol Cymru sy'n arwain y ffordd o ran rhyddhau cronfeydd Ewropeaidd, ond mae tystiolaeth hefyd bod rhannau o'r sector addysg uwch a’r sector addysg bellach yn perfformio'n dda o ran cael mynediad at gyllid. Mae'r enghreifftiau hyn yn eithriad i'r rheol, sut bynnag.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod pwysleisio'n ormodol ar Gronfeydd Strwythurol a Rhaglenni Datblygu Gwledig yng Nghymru yn golygu nad yw'r cyfleoedd sylweddol y mae rhaglenni ariannu eraill yn eu cynnig wedi cael eu gwireddu'n iawn.

Clywodd y Pwyllgor fod dulliau’r Alban ac Iwerddon ar gyfer gwneud cais am gyllid o'r fath yn llawer mwy strategol a chydlynol.

Felly, mae'r Pwyllgor am weld strategaeth gydlynol ar gyfer holl raglenni polisi a chyllid yr UE er mwyn gwneud y gorau o ymgysylltu o du Cymru ac i greu synergedd â blaenoriaethau a mentrau Llywodraeth Cymru.

Mae'r Pwyllgor hefyd wedi galw am i 'hyrwyddwr cyllid yr UE' gael ei sefydlu er mwyn gyrru strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer yr UE o ran ei chyflawni a’i gweithredu

"Mae angen cefnogaeth ar sefydliadau Cymru i gyfranogi o'r rhaglenni cyllid UE hyn, o ran creu capasiti a phartneriaethau rhyngwladol, er enghraifft," meddai William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes.

"Bydd hynny'n gofyn am newid o ran adnoddau a newid ym meddwl llywodraeth leol a llywodraeth yn genedlaethol fel y caiff y rhaglenni hyn flaenoriaeth deilwng - a dylem edrych tuag Iwerddon a'r Alban i weld sut mae datblygu dull mwy rhagweithiol a strategol o weithio.

"Mae Y Gwyll/Hinterland, sef cyfres ddrama arobryn o Gymru, yn dangos pa mor bwysig y gall arian yr UE fod, a Rhaglen y Cyfryngau yn yr achos hwn, wrth helpu i hyrwyddo Cymru, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, a chyfleu delwedd fywiog a chadarnhaol o Gymru trwy Ewrop (a thu hwnt).

"Mae hefyd yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda chymorth Llywodraeth Cymru trwy ei menter, Media Antenna

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 16 o argymhellion yn ei adroddiad yn seiliedig ar dair prif thema:

  • Datblygu dull strategol cyffredinol;

  • Hyrwyddo rhaglenni cyllid yr UE, gan gynnwys cyfnerthu cynrychiolaeth Cymru mewn trafodaethau a rhwydweithiau ym Mrwsel;

  • Darparu'r strwythurau cymorth angenrheidiol (man canolog ar gyfer gwybodaeth a chyngor yn Llywodraeth Cymru; gwasanaethau arbenigol a rhai wedi'u teilwra ar gyfer gwahanol sectorau; adeiladu partneriaethau; a rhannu arfer da).

Adroddiad: Gyfleoedd Cyllido yr UE: 2014-2020

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE ar gael yma.