Rhaid i Gymru gael 100 y cant o’i hynni o ffynonellau adnewyddadwy, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 08/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/03/2016

​Dylai Cymru hefyd ddiwallu ei holl anghenion ynni drwy ffynonellau adnewyddadwy ac, yng nghyd-destun yr angen i dorri o leiaf 80 y cant ar ei hallyriadau carbon erbyn 2050, gosod dyddiad targed ar gyfer cyflawni hyn, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


 
Dylai ynni lleol ac ynni a gynhyrchir yn y gymuned fod yn rhan ganolog o gynlluniau ynni Cymru yn y dyfodol, yn ôl y Pwyllgor.

Mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd hefyd am weld targedau blynyddol yn cael eu gosod i leihau'r galw am ynni ac i helpu pobl i ddefnyddio ynni'n fwy effeithiol.

Caiff yr argymhellion eu cynnwys mewn adroddiad newydd, Dyfodol Ynni Craffach i Gymru, sy'n edrych ar faterion sy'n cynnwys cyflenwad ynni carbon isel, rheoli galw am ynni, a storio ynni.

Mae'r Pwyllgor am weld rheoliadau adeiladu yn cael eu diwygio ar frys i sicrhau bod tai newydd yn cael eu hadeiladu i safonau ynni 'agos at sero'. Mae hefyd o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i gysylltu cost treth tir y doll stamp â pherfformiad ynni tŷ i ddechrau cynyddu gwerth cartrefi effeithlon o ran ynni. Gallai hyn gael ei ystyried o dan bwerau codi refeniw newydd, a allai gael eu datganoli i Gymru.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: "Cyfyngu ar newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol drwy leihau'n sylweddol faint o garbon sy'n cael ei ryddhau i'r atmosffer yw un o'r heriau mawr i'r byd, ac eto, mae cyfleoedd yn codi yn sgîl mynd i'r afael â'r her hon i wella llesiant cenedlaethau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol yn sylweddol.


Ymchwiliad i Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru

 


 "Yn sail i'r achos moesegol dros leihau allyriadau carbon Cymru, ceir ymrwymiadau rhyngwladol a domestig i gyfyngu ar y cynnydd yn nhymheredd cyfartalog y byd. 

 "Yng Nghymru, rydym wedi mynd gam ymhellach drwy osod targed cyfreithiol ar gyfer lleihau allyriadau.

 "Yr unig obaith i Gymru gyrraedd y targed hwn yw drwy drawsnewid y ffordd yr ydym oll yn meddwl am ynni: sut y caiff ei gynhyrchu, ei ddosbarthu, ei storio a'i arbed". 

Fel rhan o'i ymchwiliad, ymwelodd y Pwyllgor â thalaith Baden-Wurrtemberg yn ne-orllewin yr Almaen a chyfarfod â chymunedau a llunwyr polisi, i weld sut y mae'r trawsnewidiad ynni, yr Energiewende, wedi cydio yno.

"Roedd yr hyn a welwyd yn yr Almaen yn atgyfnerthu'r achos dros newid, ac yn dangos yr hyn sy'n bosibl i ni drwy'r cyfuniad cywir o arweinyddiaeth, polisi a rheoleiddio," yn ôl Mr Jones.

"Gwelwyd nifer o enghreifftiau ysbrydoledig o'r hyn y gellir ei gyflawni os yw llunwyr polisïau yn ddigon dewr i wneud penderfyniadau, a'r hyn sy'n digwydd pan fydd cymunedau'n dechrau cymryd rheolaeth dros eu dyfodol".

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 17 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dangos gweledigaeth glir ar gyfer polisi ynni yn y dyfodol, gan gynnwys rôl ganolog i ynni lleol;
  • Pennu targedau blynyddol i leihau'r galw am ynni a helpu pobl i'w ddefnyddio'n fwy effeithlon;
  • Diwygio Rheoliadau Adeiladu ar frys, i sicrhau bod tai newydd yn cael eu hadeiladu i safonau ynni 'agos at sero'; a
  • Sefydlu cwmni gwasanaeth ynni 'ambarél' dielw. O dan yr ambarél hon, gall awdurdodau lleol, dinas-ranbarthau neu gymunedau gynnig cyflenwad ynni yn lleol.

Dyfodol Ynni Craffach i Gymru (pdf. 3.93MB)