Rhaid i Gymru wneud mwy o ddefnydd o gyllid Ewropeaidd ar gyfer ymchwil ac arloesi, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 31/05/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Rhaid i Gymru wneud mwy o ddefnydd o gyllid Ewropeaidd ar gyfer ymchwil ac arloesi, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

31 Mai 2013

Rhaid i Lywodraeth Cymru chwarae rôl strategol mwy cadarn i sicrhau bod Cymru yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a fydd ar gael o dan gronfa ymchwil ac arloesi’r Undeb Ewropeaidd (Horizon 2020) gwerth bron i £70 biliwn, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Nododd y Pwyllgor Menter a Busnes y cynnydd y mae’r Alban ac Iwerddon wedi’i wneud tuag at sicrhau cyllid oddi wrth Horizon 2020, sydd wedi’i seilio ar ymagwedd strategol gryf yn y ddwy wlad, gan ddod a’r holl grwpiau allweddol o ran ymchwil ac arloesi ynghyd.

Hefyd, croesawodd dystiolaeth gan Brifysgol Caerdydd a oedd yn pwysleisio pwysigrwydd Cymru yn gweithio o fewn Ewrop.

Mae’r Pwyllgor wedi argymell mai rhan o waith yr uned Horizon 2020 newydd, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru o fewn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, fyddai codi proffil Cymru yn Ewrop a sicrhau cytundebau rhwng diwydiant a chanolfannau academaidd ac ymchwil.

Daeth i’r casgliad fod perthnasau agosach rhwng y sectorau busnes ac ymchwil yn hanfodol o ystyried y pwyslais cryfach y disgwylir i Horizon 2020 ei roi ar ymchwil amlddisgyblaethol, a’r flaenoriaeth fwy y bydd yn ei rhoi i arloesi a masnacheiddio canlyniadau gwaith ymchwil.

Hefyd, pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd sicrhau bod yr arbenigedd technegol a gwyddonol cywir yn rhan o’r strwythurau cymorth yng Nghymru, sydd wedi bod yn nodwedd bwysig yn y dulliau sydd wedi’u mabwysiadu gan Iwerddon, yr Alban a rhanbarthau Aragon a Chatalonia yn Sbaen i gynnwys eu sectorau busnes ac ymchwil.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, “Mae Horizon 2020 yn gyfle amhrisiadwy i wneud y mwyaf o gyfleoedd yn y maes ymchwil ac arloesi, ac mae’r Pwyllgor yn credu ei bod yn hanfodol fod Cymru yn pwysleisio ei chryfderau’n fwy i gael mynediad at y cyllid hwn”.

“Mae gan y Pwyllgor bryderon fod Cymru yn barod ar ôl gwledydd fel Iwerddon a’r Alban yn ei pharatoadau i gymryd rhan yn Horizon 2020.

“Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r uned Horizon 2020 o fewn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i godi proffil Cymru ymhellach yn Ewrop tra hefyd yn helpu diwydiannau a sefydliadau academaidd i ffurfio partneriaethau Ewropeaidd i sicrhau bod gwaith ymchwil arloesol a wneir yng Nghymru yn dwyn ffrwyth yn y byd masnachol.

“Credwn y bydd hyn yn cyfrannu at ymagwedd fwy strategol i ddod â’r sectorau busnes ac ymchwil ynghyd, yn lle’r ymagwedd ‘ar hap’ y clywodd y Pwyllgor amdani.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 17 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Ystyried ac asesu rôl y Rhwydwaith Cymorth Cenedlaethol ar gyfer Pŵer Fframwaith 7 yn Iwerddon, y gwersi sydd wedi’u dysgu a’r arfer da y gellid ei roi ar waith yng nghyd-destun Cymru i hyrwyddo cysylltiadau â’r fframwaith Horizon 2020;

  • Ystyried ac asesu effaith Grŵp Llywio Ymchwil ac Arloesi yr Alban a’i Fframwaith Strategol newydd ar gyfer Horizon 2020, gan ganolbwyntio ar wersi i lywio’r gwaith o ddatblygu ymagwedd fwy strategol at ddulliau o gynnig cymorth yng Nghymru;

  • Herio’r uned Horizon 2020 newydd o fewn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i godi proffil Cymru yn Ewrop, gan gynnwys gwaith ar y cyd gan bobl ym Mrwsel a chyfuno adnoddau i sicrhau’r effaith fwyaf posibl;

  • Sicrhau bod gan staff yr uned newydd o fewn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru y cyfuniad anghenrheidiol o sgiliau ac arbenigedd technegol, gwyddonol a busnes sydd wedi bod mor llwyddiannus yn yr Alban, Iwerddon, Aragon a Chatalonia; a

  • Cefnogi’n weithredol partneriaeth mwy strategol - fersiwn Gymraeg o’r dulliau llwyddiannus yn Iwerddon a’r Alban - rhwng addysg uwch a busnesau yng Nghymru yn sgil y cyfleoedd y mae Horizon 2020 yn eu cynnig. Dylai hyn gynnwys cynnal cynhadledd Horizon 2020 neu wythnos wyddoniaeth blynyddol yng Nghymru i godi proffil ymchwil a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd, i rannu syniadau a dangos prosiectau llwyddiannus.

Dyma’r ail adroddiad gan y Pwyllgor ynghylch Horizon 2020, a daw yn sgil yr adroddiad Cyfnod 1 ym mis Gorffennaf y llynedd yn galw ar Gymru i fod yn ‘fwy craff’ i gael mynediad at gyllid ymchwil yr UE.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn yr 16 o argymhellion yn adroddiad cyntaf y Pwyllgor ar Horizon 2020.

Pwyllgor Menter a Busnes

Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i Horizon 2020.

Horizon 2020 yw rhaglen ymchwil ac arloesi’r Undeb Ewropeaidd i ddilyn y Rhaglen Ymchwil Fframwaith 7 presennol (FP7). Bydd y ddeddfwriaeth derfynol yn darparu’r fframwaith y bydd yn rhaid i brifysgolion, canolfannau ymchwil a busnesau Cymru wneud cais iddo i sicrhau cyllid ymchwil yr UE yn 2014-2020.   

Rhagor o wybodaeth am Horizon 2020