Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatgan ei dyheadau ar gyfer masnach a mewnfuddsoddi

Cyhoeddwyd 08/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2015

​​Mae angen i Lywodraeth Cymru werthuso ei dull "mewnol" o gefnogi mewnfuddsoddi i economi Cymru, yn ôl Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
Roedd tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Menter a Busnes yn nodi ers diddymu'r asiantaeth ddatblygu bwrpasol yng Nghymru a'r newidiadau dilynol a wnaed i strwythurau cymorth y sector cyhoeddus bod dryswch a diffyg cydlyniad ar gyfer cefnogi a hybu allforion o Gymru a denu buddsoddiad tramor.
Mae aelodau'r Pwyllgor wedi argymell bod angen i Lywodraeth Cymru gomisiynu gwerthusiad annibynnol i asesu a yw'r dull mewnol presennol o gefnogi masnach a mewnfuddsoddi yn cynrychioli arfer da a gwerth am arian.

Dywedodd William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Roeddem yn awyddus i ystyried pa mor effeithiol y bu dull gweithredu Llywodraeth Cymru - pa mor gryf yw "arlwy" mewnfuddsoddi Cymru, ac i ba raddau y mae gan Gymru "frand" cydlynus mewn perthynas â masnach a mewnfuddsoddi.

"Cawsom dystiolaeth groes yn ystod yr ymchwiliad hwn. Roedd llawer o ymatebwyr yn uchel eu canmoliaeth i'r cymorth a gawsant gan Lywodraeth Cymru, nid felly ymatebwyr eraill. 

"Dylai'r gwerthusiad o'r dull gweithredu mewnol presennol mewn perthynas â chefnogi masnach a mewnfuddsoddiad asesu a yw'n cynrychioli arfer da a gwerth am arian.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru nodi strategaeth datblygu economaidd glir sy'n egluro ei dyheadau ar gyfer masnach a mewnfuddsoddi."

Gwnaeth y Pwyllgor hefyd naw argymhelliad arall o ran helpu busnesau Cymru i ehangu eu marchnadoedd rhyngwladol, gan gynnwys:
  • dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, neu ei chomisiynu, i lunio ffigurau Cynnyrch Mewnwladol Crynswth ar gyfer Cymru, ar yr un sail ac amlder â’r DU;
  • dylai Llywodraeth Cymru lunio, a chyhoeddi’n flynyddol, gyfres o ddangosyddion perfformiad allweddol tryloyw, sy’n dangos perfformiad blynyddol economi Cymru o ran mewnfuddsoddi; a
  • dylai Llywodraeth Cymru egluro ei strategaeth brand ar gyfer masnach a mewnfuddsoddi.