Rhaid mynd i'r afael â'r amrywiad mewn gofal iechyd meddwl amenedigol ledled Cymru

Cyhoeddwyd 17/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/10/2017

Yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, mae angen mwy o fuddsoddiad i fynd i'r afael ag amrywiadau mewn gofal a gaiff ei brofi gan fenywod sy'n wynebu salwch meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth. Rhybuddiodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd fod y diffyg gofal arbenigol i gleifion mewnol yng Nghymru, ar gyfer y rheiny sydd â'r symptomau mwyaf difrifol, yn annerbyniol.  . 

Primary Care Clusters in Wales

Er bod y Pwyllgor yn croesawu creu timau iechyd meddwl amenedigol arbenigol i drin mamau yn y gymuned, mae wedi argymell bod angen mwy o fuddsoddiad i alluogi'r holl wasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol i gyrraedd y safon orau bosibl.


"Roedd yn anodd iawn cael help pan y'ch chi'n feddyliol wael. 'Rydyn ni i gyd mewn ardaloedd daearyddol gwahanol ac roedd y ffyrdd roedd yn rhaid i ni i gyd geisio cael help yn gwbl wahanol."

Staci Sylvan o Sir Gaerfyrddin, sydd wedi profi salwch meddwl amenedigol ac a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor.


"Mae'n loteri cod post o ran ble rydych chi. 'Dyw Gogledd a Gorllewin Cymru ddim yn dueddol o wneud yn dda iawn o ran y gwasanaethau a gaiff eu darparu o'u cymharu â de Cymru a Chaerdydd."

Sally Wilson o Fangor, sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwynedd, ac a gyfrannodd dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor.



Gellir gofalu am y mwyafrif o fenywod sy'n dioddef o salwch meddwl amenedigol yn ddiogel ac yn effeithiol yn y gymuned, ond mae angen gofal mewn Uned Mam a Baban arbenigol ar gyfer y rheini sydd â'r symptomau mwyaf difrifol. Er bod o leiaf 50 i 80 o fenywod yng Nghymru angen cael eu derbyn i gael gofal mewnol bob blwyddyn, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth fod yr unig Uned yng Nghymru wedi'i chau yn 2013. Ers hynny, mae cleifion wedi teithio mor bell â Derby, Llundain a Nottingham, neu wedi cael triniaeth mewn uned seiciatrig i oedolion, wedi'u gwahanu oddi wrth eu plentyn.


Dywedodd Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor:  

Rydym wedi clywed gan fenywod, eu teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi dweud wrthym fod angen i ni wella'r cymorth iechyd meddwl ar gyfer menywod sy'n rhoi genedigaeth yng Nghymru. Amcangyfrifir bod salwch meddwl amenedigol yn effeithio ar hyd at un o bob pum menyw ar ryw adeg yn ystod eu beichiogrwydd neu yn y flwyddyn gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth, gyda'r cyflyrau'n amrywio ar draws sbectrwm o ddifrifoldeb."
 
"I'r rhan fwyaf o fenywod, gofal mewn lleoliad cymunedol fydd y mwyaf priodol. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd i sicrhau bod menywod sydd angen cefnogaeth arbenigol yn y gymuned yn cael y gofal cywir, ac rydym wedi ymrwymo i fonitro cynnydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaethau mor dda â phosibl."
 
"I'r lleiafrif o fenywod sydd â'r salwch meddwl mwyaf difrifol yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth, mae mynediad i Uned Mam a Baban yn allweddol. Rydym yn falch bod ein gwaith i dynnu sylw at y pwnc hwn eisoes wedi dwyn ffrwyth, gyda Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddatblygu cymorth iechyd meddwl arbenigol i gleifion mewnol ar gyfer mamau newydd yng Nghymru. Fodd bynnag, credwn fod canfod lleoliad ar gyfer gwasanaethau cleifion mewnol sy'n addas i fenywod ledled Cymru yn parhau i fod yn her. Er y byddai'r gyfradd enedigaeth yn ne Cymru yn ddigon i gynnal uned arbenigol, ni fyddai hyn yn datrys y problemau yn y gogledd. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda GIG Lloegr fel mater o frys i drafod opsiynau ar gyfer creu canolfan yng ngogledd ddwyrain Cymru a allai wasanaethu dwy ochr y ffin."

 


 

Dyma rai o argymhellion eraill adroddiad y Pwyllgor:

  • Blaenoriaethu darpariaeth o ran mynediad cyflym a phrydlon i therapïau seicolegol ar gyfer menywod amenedigol o gofio'r cyswllt sefydledig rhwng salwch amenedigol ac iechyd a datblygiad plentyn. Yn ystod y chwe mis nesaf, hefyd, dylai Llywodraeth Cymru amlinellu sut y mae'n disgwyl mynd i'r afael â diffyg cefnogaeth seicolegol i rieni newyddenedigol a rhieni sydd mewn galar;

  • Codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl amenedigol ymysg y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol, i wella dealltwriaeth o'r symptomau ac annog normaleiddio trafodaethau am les emosiynol er mwyn lleihau stigma ac ofn; a

  • Dylai Byrddau Iechyd a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd pan gaiff menywod eu cyfeirio at sefydliadau'r trydydd sector, i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu hariannu'n briodol i gynnig y gefnogaeth y cyfeirir ati. 

 

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru (PDF, 1 MB)