Rhaid rhoi terfyn ar oedi wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i amddiffyn plant sy’n agored i niwed, yn ôl pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 02/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/02/2017

​Rhaid rhoi terfyn ar gamau gweigion wrth sicrhau bod gwasanaethau eirioli ar gael i’r plant a’r bobl ifanc sydd gyda’r mwyaf agored i niwed yng Nghymru, yn ôl pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Clywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg dystiolaeth bod gwasanaethau eirioli annibynnol yn hanfodol ar gyfer amddiffyn a diogelu plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol a’r plant hynny y mae’r gwasanaethau cymdeithasol yno i’w hamddiffyn.

Clywodd y Pwyllgor ar ddechrau ei ymchwiliad fod ‘dull cenedlaethol’ heb gael ei gytuno o hyd ar gyfer sut y dylai awdurdodau lleol Cymru ddarparu’r gwasanaethau hyn, a hynny er gwaethaf cyfres o adroddiadau beirniadol iawn yn rhestru methiannau dros y blynyddoedd.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gref am yr hyn a all ddigwydd pan nad yw’r gwasanaethau hyn ar gael ac mae pethau’n mynd o chwith. Mae hyn yn dyddio’n ôl i adroddiad Ymchwiliad Waterhouse, a gyhoeddwyd yn 2000.

Canfu’r adroddiad hwnnw nad oedd neb wedi credu na gwrando ar ddioddefwyr wedi degawdau o gam-drin plant yn rhywiol ac yn gorfforol, a oedd yn gyffredin mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru. Fe dynnodd sylw hefyd at ba mor bwysig ydyw bod plant sy’n derbyn gofal yn gallu cael mynediad at eiriolwyr annibynnol.

Clywodd y Pwyllgor fod saith adroddiad rhwng 2003 a 2014 yn datgan pryderon ac yn gwneud argymhellion am bwysigrwydd gwasanaethau eirioli yng Nghymru.

Clywodd Aelodau Cynulliad hefyd fod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi bod yn cynnal trafodaethau am y ffordd orau o ddarparu’r gwasanaethau hyn yng Nghymru a sut i’w hariannu.

Roedd yr Aelodau’n falch o weld bod arwyddion o gynnydd sylweddol yn y misoedd diwethaf, ond dywedasant fod achosion o oedi annerbyniol.

"Rydym yn sôn am blant sydd ymysg y mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae’n hanfodol bod gan blant a phobl ifanc cymwys fynediad rhwydd at wasanaethau eirioli a’u bod yn gwbl ymwybodol bod y gwasanaethau yno i’w cefnogi i sicrhau bod eu barn, eu dymuniadau a’u pryderon yn cael eu clywed," meddai Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

"Mae’r honiadau newydd, niferus o gam-drin hanesyddol yn ein hatgoffa bod y gwasanaethau eirioli hyn yn hanfodol er mwyn amddiffyn plant sy’n agored i niwed."

"Mae’r achosion o oedi a welsom yn y gwasanaethau eirioli yn annerbyniol, ond rydym yn rhoi croeso gochelgar i ddatblygiadau diweddar a byddwn yn monitro cynnydd yn fanwl."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud wyth argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys y rhai canlynol yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn:

  • Monitro a sicrhau bod pob awdurdod lleol wedi ymrwymo’n weithredol i’r ‘Dull Cenedlaethol’ erbyn mis Ionawr 2017;
  • Monitro gwariant yr awdurdodau lleol ar wasanaethau eiriolaeth statudol yn flynyddol, a sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu hariannu yn unol â’r asesiad dadansoddi anghenion y boblogaeth; a
  • Chomisiynu adolygiad annibynnol o gynnydd ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf y bydd y ‘Dull Cenedlaethol’ ar waith.