Rhewi cyflogau Aelodau’r Cynulliad am bedair blynedd

Cyhoeddwyd 12/11/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Rhewi cyflogau Aelodau’r Cynulliad am bedair blynedd

12 Tachwedd 2010

Mae Aelodau’r Cynulliad o’r pedair plaid bellach wedi hysbysu’r Bwrdd Taliadau annibynnol eu bod yn fodlon i’w cyflogau gael eu rhewi am bedair blynedd ar ôl etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ar 5 Mai 2011.

Dywedodd George Reid, Cadeirydd y Bwrdd: “Rwy’n croesawu’r penderfyniad hwn gan Aelodau’r Cynulliad i wneud eu rhan i fynd i’r afael â heriau’r sefyllfa economaidd bresennol lle mae cyflogau’n cael eu rhewi yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

“Gan ystyried chwyddiant, mae rhewi cyflogau yn gyfwerth ag arbedion o £1 miliwn dros y pedair blynedd nesaf.”

Y Bwrdd Taliadau yw’r corff annibynnol statudol sy’n gyfrifol am bennu cyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad a’u staff.

Mae’r Bwrdd wedi comisiynu astudiaeth fanwl o lefelau cyflog canolrifol yng Nghymru gan ddau o’i haelodau, sef yr Athro Monojit Chatterji a Mary Carter, ill dau yn arbenigwyr yn y maes.

Dywedodd George Reid: “Rydym yn benderfynol o gysylltu ein cynigion ag enillion pobl Cymru.”

Mae’r Bwrdd hefyd yn edrych ar nifer o feysydd allweddol fel rhan o’r broses adolygu barhaus. Y meysydd allweddol yw:

  • Tâl atodol ar gyfer swyddi ychwanegol;

  • Cyflog staff cymorth Aelodau’r Cynulliad; a

  • Rôl Aelodau’r Cynulliad a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni’u swyddogaethau.

Ymgynghorir ag Aelodau’r Cynulliad am y rhain, a materion eraill pan fydd y Bwrdd yn lansio ei ddogfen ymgynghorol ym mis Tachwedd. Bydd y Bwrdd hefyd yn croesawu cyflwyniadau gan y cyhoedd a sefydliadau cynrychioliadol.