Cyhoeddwyd 03/08/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Sefydlu grwp i gasglu tystiolaeth am Dyslecsia
Mae Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi sefydlu grwp rapporteur i gasglu tystiolaeth am dyslecsia.
Bydd y grwp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad (Alun Cairns, Jeff Cuthbert, Janet Ryder a Kirsty Williams) yn ystyried y dulliau gweithredu sydd wedi’u sefydlu, rhai arloesol a rhai dulliau gweithredu sy’n dod i’r amlwg wrth drin dyslecsia.
Bydd yr aelodau’n casglu tystiolaeth gan Brosiect Dyslecsia Cymru, Y Gymdeithas Dyslecsia Brydeinig yng Nghymru, Dyslexia Action, British Dyslexics a Dyslecsia Cymru yn ogystal ag ymweld â Chanolfan Dore Caerdydd, Uned Dyslecsia Bangor a Choleg Glannau Dyfrdwy yn ystod toriad yr haf ac yn gynnar yn Nhymor yr Hydref. Yna bydd y grwp yn cyflwyno adroddiad ac argymhellion am yr hyn mae wedi’i ddarganfod i’r Pwyllgor Menter a Dysgu yn ystod Wythnos Genedlaethol Dyslecsia rhwng Tachwedd 5
ed a’r 10fed eleni.
Gwybodaeth bellach am y Pwyllgor Menter a Dysgu