Senedd Ieuenctid Cymru yn holi pobl ifanc am iechyd meddwl a llesiant

Cyhoeddwyd 24/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/02/2020

Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi agor ymgynghoriad newydd er mwyn casglu barn pobl ifanc am iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. 
Cafodd yr ymgynghoriad ei agor yn swyddogol ddydd Llun, 24 Chwefror yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac Ysgol David Hughes ar Ynys Môn. 

Yn y ddau le, bu disgyblion a myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdy ac yn cael cyfle i lenwi holiadur er mwyn cyfrannu eu barn a’u profiadau eu hunain at waith y Senedd Ieuenctid. 

Iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc yw un o'r tri phwnc y mae’r Senedd Ieuenctid Cymru wedi dewis eu blaenoriaethu, yn dilyn pleidlais yn ystod eu cyfarfod cyntaf ym mis Chwefror 2019. Mae blwyddyn union wedi bod ers cynnal y cyfarfod cyntaf erioed. 

Dyma beth sydd gan rai o Aelodau’r Pwyllgor Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl, i'w ddweud. 

Ifan Price (Dwyfor Meirionydd, Gogledd Cymru) 
“Pan es i o gwmpas fy etholaeth i siarad gyda phobl, mi wnes i glywed lot o bethau wnaeth fy nychryn i. Un o’r pethau oedd faint o bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl, yr ail yw’r diffyg cymorth sydd ar gael ac yn drydydd faint o bobl sy’ ddim hyd yn oed yn gwybod bod cymorth ar gael iddyn nhw os ydyn nhw’n stryglo. Yn fras iawn, mae angen lot mwy o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc sy’n stryglo hefo’u hiechyd meddwl.” 

Emily Kaye (Llanelli, Canol a Gorllewin Cymru)  
“Os yw iechyd meddwl yn fater mor gyffredin, pam ei fod o’n cael ei drin fel esgus neu ddewis. Mae hyn angen newid a nawr yw’r amser i ni wneud i hynny ddigwydd. Mae’n rhaid i addysg, sgwrsio a chefnogaeth fod yn feysydd allweddol wrth ddelio hefo’r mater yma. Mae iechyd meddwl yn gallu effeithio ar unrhyw un ac mae’n hanfodol bod y rhai sydd angen cefnogaeth ac arweinyddiaeth yn derbyn y modd priodol ac adnoddau i allu gwneud hynny.” 

Thomas Comber (Delyn, Gogledd Cymru)   
“Mae un ymhob deg person ifanc yn delio hefo materion iechyd meddwl yn ddyddiol ac mae’r ffigwr yma yn codi. Beth sydd yn gwneud hyn yn waeth yw’r ffaith nad yw’r gwasanaethau sydd gennym i helpu  a chefnogi pobl ifanc hefo’i broblemau iechyd meddwl yn gallu ymdopi hefo’r niferoedd sy’n dioddef. Rydym nawr yn gweld rhestrau disgwyl gan CAMHS (Child and Adolescent Mental Health Services) sydd yn gallu bod dros flwyddyn.” 
 
 

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 8 Awst 2020 ac, yn ogystal ag arolwg ar-lein, mi fydd y Senedd Ieuenctid yn cynnal gweithdai mewn ysgolion a sefydliadau ieuenctid ledled y wlad er mwyn rhoi’r darlun cliriaf posibl o'r hyn y mae pobl ifanc yn ei feddwl am iechyd meddwl a llesiant, a'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i'w helpu. 

Ym mis Gorffennaf 2020, mi fydd dau ddigwyddiad, un yn y de a’r llall yn y gogledd, yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc rannu barn a chyfrannu rhagor at y gwaith. 

6 Gorffennaf - Stadiwm Dinas Caerdydd 
10 Gorffennaf – Glasdir, Llanrwst  

Bydd mwy o wybodaeth am y digwyddiadau yn cael eu cyhoeddi yn fuan.  

Bydd canfyddiadau Senedd Ieuenctid Cymru yn cael eu defnyddio i wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch sut i wella gwasanaethau. 

Gall unrhyw bobl ifanc, ysgolion neu sefydliadau ieuenctid sydd am gymryd rhan ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru.