Senedd Ieuenctid Cymru yn pleidleisio i flaenoriaethu Cymorth Iechyd Meddwl ac Emosiynol

Cyhoeddwyd 25/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/02/2019

​Heddiw, pleidleisiodd Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru i ddewis y canlynol fel eu prif themâu dros y ddwy flynedd nesaf: iechyd meddwl ac emosiynol, sbwriel a gwastraff plastig a sgiliau bywyd yn y cwricwlwm.  

Mewn pleidlais hanesyddol fe nododd y corff - a etholwyd yn ddemocrataidd a sy'n cynrychioli pob person ifanc yng Nghymru - yr hyn mae'n gobeithio ei gyflawni dros y ddwy flynedd nesaf.

Cyfarfu'r 60 Aelod yn Siambr y Senedd ddydd Sadwrn 23 Chwefror ar gyfer cyfarfod cyntaf erioed Senedd Ieuenctid Cymru, gan eistedd yn y seddi sydd fel rheol yn seddi i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cadeiriodd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, y trafodaethau ac fe gafodd pob Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gyfle i gyflwyno araith agoriadol am y pynciau sydd bwysicaf iddynt. Roedd rhain yn cynnwys yr iaith Gymraeg a diwylliant, cymorth i bobl ifanc agored i niwed, sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, troseddau casineb, cydraddoldeb a hawliau a gwastraff plastic. Yn ystod y sesiwn fe gyfeiriodd yr aelodau at eu profiadau personol yn ogystal â rhai eu cyfoedion, ffrindiau a theulu.


"Rydych chi’n bobl ifanc anhygoel. Rydych wedi trafod eich pynciau gydag angerdd - ac fe deimlais yr angerdd hwnnw yn y Siambr heddiw."

- Elin Jones AC, Llywydd - Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


Yn ystod y sesiwn, trafododd Senedd Ieuenctid Cymru ganlyniadau arolwg cenedlaethol o filoedd o bobl ifanc ledled Cymru ar yr hyn dylai’r Senedd Ieuenctid flaenoriaethu hefyd.

Wrth annerch aelodau SIC, dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC:

“Rydych chi’n bobl ifanc anhygoel. Mae’n fraint i gael fy nghynrychioli gennych chi. Rydych wedi trafod eich pynciau gydag angerdd - ac fe deimlais yr angerdd hwnnw yn y Siambr heddiw. Rydych wedi adfywio fy ffydd a’m gobaith mewn democratiaeth Gymreig."

Siaradodd Arianwen Fox-James, Aelod SIC dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, yn ystod y sesiwn ar gymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl y pleidleisiodd 41 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru drosto. Dywedodd:

“Fe fydd pawb yn yr ystafell hon yn ymrafael gydag hyder ar rhyw bwynt yn eu bywydau ond mae gan bawb yma nod cyffredin o sichrau ein bod ni gyd yn cael ein gwerthfawrogi a chydnabod.

Mae pobl yn eu harddegau ym mhobman yn teimlo'n unig ac nid oes ganddynt unrhyw le i droi. Os mai hunanladdiad yw un o brif achosion marwolaeth pam nad ydym yn cefnogi pobl ifanc?”

Yn ystod y penwythnos, clywodd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru gan Huw Stephens, DJ Radio 1 wrth iddo arwain sesiwn ar greu argraff, cafwyd sesiynau torri'r iâ er mwyn dod i adnabod yr aelodau eraill yn well a deall mwy am eu gobeithion a’u pryderon.

Bydd yr aelodau'n cynnal sesiynau grŵp llai i drafod eu blaenoriaethau dros y misoedd nesaf ac yn ymgynghori â phobl ifanc yn eu hetholaethau a'u sefydliadau partner.

Bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfarfod eto ym mis Hydref.

 



Senedd Ieuenctid Cymru.

Rydym yn ffordd gwbl newydd i ti allu dweud dy ddweud ar y pethau sy’n bwysig i ti yng Nghymru..

Rhagor o wybodaeth ›