Simon Weston OBE i roi tystiolaeth i’r ymchwiliad i wasanaethau Anhwylder Straen Wedi Trawma

Cyhoeddwyd 06/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Simon Weston OBE i roi tystiolaeth i’r ymchwiliad i wasanaethau Anhwylder Straen Wedi Trawma

6 Hydref 2010

Bydd Simon Weston OBE, cyn-filwr rhyfel y Falklands, yn rhoi tystiolaeth heddiw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o ymchwiliad un o bwyllgorau’r Cynulliad i wasanaethau anhwylder straen wedi trawma yng Nghymru.

Bydd Mr Weston yn siarad â’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn rhinwedd ei rôl yn un o gefnogwyr yr elusen iechyd meddwl Talking2Minds. Mae’r elusen yn arbenigo mewn triniaeth therapiwtig ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog sy’n ceisio ymdopi ag anhwylder straen wedi trawma ac anhwylderau eraill yn ymwneud â straen.

Bydd cynrychiolwyr o Apêl Plasty’r Gelli Aur hefyd yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor. Mae’r Apêl yn ceisio sefydlu canolfan driniaeth a gwellhad yng Nghymru ar gyfer aelodau presennol o’r lluoedd arfog a chyn-filwyr sy’n gwella ar ôl dioddef anafiadau corfforol a meddyliol.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rwyf yn croesawu presenoldeb Mr Weston a Talking2Minds, yn ogystal â phresenoldeb yr holl unigolion a’r sefydliadau eraill sy’n cyfrannu at yr ymchwiliad pwysig ac emosiynol hwn.

“Clywsom eisoes gan gyn-filwyr a ddywedodd wrthym am eu profiadau erchyll, ynghyd â’r cymorth y maent wedi ei gael ers hynny, pa faint bynnag oedd hynny.

“Bydd yr ymchwiliad hwn yn craffu ar bob agwedd ar y gwasanaethau cymorth a ddarperir ar gyfer cyn-filwyr sy’n ceisio ymdopi ag anhwylder straen wedi trawma yng Nghymru. Yn aml, mae’r profiadau personol hyn yn chware rhan hanfodol yn y broses o lunio argymhellion y Pwyllgor.”