Stampiau pencampwyr Olympaidd o Gymru yn cael eu hychwanegu at arddangosfa o stampiau’r Fedal Aur yn y Senedd

Cyhoeddwyd 07/08/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Stampiau pencampwyr Olympaidd o Gymru yn cael eu hychwanegu at arddangosfa o stampiau’r Fedal Aur yn y Senedd

7 Awst 2012

Mae stampiau Geraint Thomas a Tom James, yr athletwyr o Gymru sydd wedi ennill y fedal aur, wedi’u hychwanegu at yr arddangosfa o stampiau’r Post Brenhinol sy’n coffáu llwyddiannau euraid Tîm Prydain Fawr yn Llundain 2012.

Bob tro y bydd aelod o Dîm Prydain Fawr yn ennill medal aur, bydd y Post Brenhinol yn cynhyrchu stamp coffaol ac arno lun o enillydd y fedal.

Caiff yr holl stampiau eu harddangos yn y Senedd, a hyd yn hyn maent yn cynnwys Geraint Thomas, y beiciwr o Gymru, a Tom James, y rhwyfwr.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: "Mae’n gamp aruthrol ennill medalau aur yn y Gemau Olympaidd.

"Ond mae Geraint a Tom bellach wedi ennill medalau aur mewn Gemau Olympaidd olynol, sy’n dangos lefel ymrwymiad sy’n ein hysbrydoli ni i gyd.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch hefyd yr holl athletwyr o Gymru sydd wedi cymryd rhan, neu sydd ar fin cymryd rhan, yn y Gemau Olympaidd.

"Hoffwn longyfarch Chris Bartley yn enwedig, a enillodd fedal gyntaf Cymru pan ddaeth Tîm Prydain Fawr yn ail yn y ras rwyfo dosbarth ysgafn i dimau o bedwar o ddynion.

"Ni waeth ym mha safle y bydd Olympiaid Cymru yn gorffen, mae Cymru yn ymfalchïo ynddynt, ac maent yn fodelau rôl i’n plant a fydd, gobeithio, yn gosod sylfaen ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol ym myd chwaraeon."

Oriau agor y Senedd (yn ystod y toriad):

O ddydd Llun i ddydd Gwener 09.30 - 16.30

Penwythnosau 10.30 - 16.30

I drefnu taith o amgylch y Senedd neu i gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost at gwybodaeth@cymru.gov.uk

www.cynulliadcymru.org/senedd