Terry Waite yn cefnogi ymgais Pwyllgor i gynyddu ei broffil ar lwyfan y byd
Bydd Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddydd Iau, 9 Gorffennaf.
Bydd Sandy Mewies, Cadeirydd y Pwyllgor a’r Aelod Cynulliad dros Delyn, ac Aelodau’r Pwyllgor ar stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru (43) ac yn ymuno â hwy bydd prif siaradwyr - Terry Waite CBE, Llywydd yr Eisteddfod, a Mervyn Cousins, y Cyfarwyddwr Gweithredol.
Bydd y Cadeirydd yn siarad am rôl y Pwyllgor mewn perthynas â chysylltiadau allanol, yna cynhelir sesiwn holi ac ateb fer. Bydd Llywydd yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol hefyd yn siarad am y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid yr Eisteddfod - ‘Un Byd, Un Weledigaeth, Un Ieuenctid’. Bydd cystadleuydd rhyngwladol o ysgol gerddoriaeth Hong Kong yn rhoi perfformiad byr yn y stondin.
Dywedodd Sandy Mewies, yr Aelod Cynulliad dros Delyn: “Rwy’n bles iawn ei bod bosibl i ni ymweld â’r Eisteddfod Rhyngwladol eleni ac rydym yn awyddus i hysbysu pobl rhywfaint am waith y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, yn enwedig ei waith mewn perthynas â chysylltiadau allanol.”
“Mae’r ffordd y mae’r Cynulliad yn edrych tuag allan at weddill y byd yn rhan bwysig o waith y Pwyllgor ac rydym am sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli ar lwyfan y byd yn y ffordd orau bosibl.”
Dylai ymwelwyr sydd am gyflwyno cwestiwn ar gyfer y sesiwn holi ac ateb wneud hynny drwy ei roi i un o staff y stondin erbyn 10.30am. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 11.15am ac yn gorffen am 12.15pm.