Tocynnau GWLAD ar gael i’w harchebu, ac mae rhagor o sesiynau a siaradwyr wedi’u datgelu

Cyhoeddwyd 30/08/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/08/2019


  • Tocynnau GWLAD: Gŵyl Cymru’r Dyfodol ar gael i'w harchebu ar-lein, yn rhad ac am ddim.
  • Cyhoeddi rhagor o sesiynau a siaradwyr ar gyfer amserlen amrywiol yr ŵyl bum niwrnod.

Mae tocynnau bellach ar gael ar gyfer GWLAD: Gŵyl Cymru’r Dyfodol, digwyddiad newydd a fydd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd, 25-29 Medi.

Bwriad yr ŵyl, sy’n rhad ac am ddim, yw cychwyn sgwrs am Gymru yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar bynciau fel cymdeithas, gwleidyddiaeth, diwylliant, amrywiaeth a chydraddoldeb, chwaraeon, iaith, y cyfryngau a sut mae Cymru'n cael ei phortreadu y tu hwnt i'w ffiniau. Bydd dathliad o ddoniau’r genedl hefyd gyda chelf, diwylliant, comedi a cherddoriaeth.

Gellir archebu tocynnau ar-lein ar wefan www.datganoli20.cymru/gwlad o ddydd Gwener 30 Awst, a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Mi fydd cyfle i eraill wylio’r prif ddigwyddiadau a fydd yn cael eu ffrydio ar wefan www.datganoli20.cymru  

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yn adeiladau’r Senedd a’r Pierhead, ac mi fydd rhai sesiynau’n cael eu cynnal y tu mewn i’r Siambr drafod ei hun - llwyfan unigryw a lleoliad sydd ddim ar agor i’r cyhoedd yn aml iawn.

Meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru; “Wrth i’r tocynnau gael eu rhyddhau heddiw, mae’n dda gennym gyhoeddi rhagor o fanylion am y cyfranwyr rhagorol a fydd yn siarad o lwyfan GWLAD ym mis Medi. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, i bawb fynychu ac i deimlo'n rhydd i wrando neu gyfrannu at sgwrs am gyfeiriad a ffocws yr 20 mlynedd nesaf o ddatganoli."

Cyhoeddi rhagor o siaradwyr a sesiynau

Bellach mae rhagor o siaradwyr a sesiynau wedi cael eu cyhoeddi, gan ychwanegu at y rhestr a gyhoeddwyd fel cip cyntaf ar yr amserlen ar ddechrau mis Awst. 

Sesiwn gynta’r ŵyl fydd trafodaeth dan gadeiryddiaeth Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru, Adrian Master. Wrth holi panel o westeion, mi fydd yn ein dwyn yn ôl i 1999 i gofio cyfnod sefydlu’r Cynulliad, cyn gosod cynsail ar gyfer gweddill yr ŵyl drwy droi’r drafodaeth tuag at y gobeithion a’r dyheadau ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf.

Mi fydd sesiwn drafod Cyngor Hil Cymru yn canolbwyntio ar heriau allweddol cydraddoldeb yn economi Cymru, ac ar y panel bydd yr Athro Emmanuel Ogbonna (Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd); yr Athro Parvaiz Ali (Cyn Bennaeth Meddygaeth Niwclear, Ysbyty Singleton); Ali Abdi (Trefnydd Cymunedol, Citizens Cymru); Sahar Al-Faifi (Rheolwr Rhanbarth De Cymru a Gorllewin Lloegr MEND); ac yn cadeirio bydd Chantal Patel (Prifysgol Abertawe). Hefyd, mewn digwyddiad sy’n cyd-redeg â’r ŵyl yn adeilad Y Pierhead, mi fydd Cyngor Hil Cymru yn cynnal eu Gwobrau Ieuenctid Mis Hanes Pobl Dduon Cymru.   

Ymhlith y sesiynau trafod amrywiol eraill, mae panel o arweinwyr llwyddiannus o’r byd chwaraeon. Bydd yr athletwr Tanni Grey-Thompson a chawr y maes rygbi Colin Charvis ymhlith y pencampwyr a fydd yn trafod arweinyddiaeth ac yn ystyried sut mae modd i Gymru ennill rhagor o glod rhyngwladol yn y dyfodol. 

#CymruEinDyfodol yw teitl araith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe. Mi fydd hi’n trafod yr heriau a chyfleodd y dyfodol i Gymru, fel yr unig wlad yn y byd sy’n deddfu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac yn archwilio effaith Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol ar Gymru a'r byd. 

Mewn trafodaeth dan ofal yr elusen Chwarae Teg, mi fydd Jocelyn Davies (cyn AC Plaid Cymru), Sahar Al-Faifi, Sue Essex (cyn AC Llafur) ac Angel Ezeadum (Senedd Ieuenctid Cymru), yn archwilio sut mae sicrhau cydraddoldeb a llais i bob menyw yn y Senedd.

“Ydym ni angen Newyddiadurwyr?” Dyma gwestiwn y sesiwn drafod dan ofal Dr Justin Lewis o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd. Mi fydd yn holi rhai o blith y genhedlaeth iau o newyddiadurwyr - Ciaran Jenkins (Channel 4 News), Seren Jones (BBC Radio 4 a BBC World Service) a Steffan Powell (BBC Newsbeat) - ynglŷn â rôl newyddion yn yr oes ddigidol.

Yn trafod iaith a dwyieithrwydd gydag Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth bydd y panelwyr Yr Athro Colin Williams (Prifysgol Caerdydd), Patxi Baztarrika (Cyn Weinidog Polisi Iaith Llywodraeth Gwlad y Basg) a Graham Fraser (Cyn Gomisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada).

A llawer mwy ...

Dyma ddim ond rhai o’r trafodaethau sydd i’w cynnal yn ystod y pum niwrnod. Mae modd pori drwy’r cyfan yn yr amserlen ar wefan www.datganoli20.cymru/gwlad ac mae’r tocynnau ar gael i'w harchebu o'r wefan hon o ddydd Gwener 30 Awst.

Ar ddechrau mis Awst, cafodd rhai o’r cyfranwyr cyntaf eu cyhoeddi, yn cynnwys sgyrsiau gyda Charlotte Church a Rhys Ifans, a noson gomedi yng nghwmni Tudur Owen a thîm Gŵyl Gomedi Machynlleth. Yn ymuno ag o ar gyfer y sioe stand yp bydd Lloyd Langford, Kiri Pritchard-McLean, Mike Bubbins, Matt Rees ac Esyllt Sears. 

Bydd artistiaid gig gerddoriaeth BBC Gorwelion yn cael eu datgelu’n hwyrach. 

Cynhelir yr ŵyl gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd o ddatganoli. Cynhelir GWLAD ar y cyd â nifer o bartneriaid, sy'n cyfrannu eu pynciau a'u themâu eu hunain i'r digwyddiad:

BAFTA Cymru, BBC Cymru, BBC Gorwelion, BBC Question Time, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Chwarae Teg, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Hil Cymru, Ffotogallery, Gŵyl Gomedi Machynlleth, Into Film Cymru, ITV Cymru, Materion Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Aberystwyth - Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Caerdydd - Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, S4C, Sefydliad Materion Cymreig.



 

Tocynnau:

Porwch drwy amserlen GWLAD ac archebwch eich tocynnau ar-lein