- Mae llai na hanner o blant a phobl ifanc o’r farn bod y gwasanaethau cymorth a ddarperir yn eu hysgolion neu golegau o ansawdd da iawn
- Mae rhai plant yn aros hyd at flwyddyn i gael triniaeth
- Yn ystod yr ymchwiliad dan sylw, mynegodd plant a phobl ifanc ledled Cymru eu pryderon
Mae mwy na 60 y cant o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael profiadau emosiynol anodd neu’n dioddef o broblemau iechyd meddwl o leiaf unwaith yr wythnos.
Dyma un o ganfyddiadau ymchwiliad a gynhaliwyd gan un o bwyllgorau Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn archwilio’r cymorth a ddarperir mewn perthynas ag iechyd emosiynol ac iechyd meddwl.
Mae'r adroddiad - Gadewch i ni Siarad am Iechyd Meddwl - ar gael yma
Ac i gyd fynd â'r adroddiad, maen nhw wedi cynhyrchu fideo sydd ar gael ar YouTube
Yn ogystal, canfu arolwg o fwy na 1,600 o bobl, gan gynnwys plant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol, fod diffyg addysg ynghylch faint o gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer materion iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, a bod angen gwella mynediad at wasanaethau cwnsela mewn ysgolion a cholegau.
“Pan es i o gwmpas fy etholaeth, mi wnes i glywed lot o bethau wnaeth fy nychryn i. Un o’r pethau oedd faint o bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl, yr ail yw’r diffyg cymorth sydd ar gael ac yn drydydd faint o bobl sy’ ddim hyd yn oed yn gwybod bod cymorth ar gael iddyn nhw os ydyn nhw’n stryglo.” - Ifan Price, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd.
Roedd llai na hanner y plant a'r bobl ifanc o'r farn bod y gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn eu mannau dysgu o ansawdd da iawn.
Dim ond 20 y cant o rieni a gofalwyr oedd yn cytuno.
“Mae iechyd meddwl yn gallu effeithio ar unrhyw un ac mae’n hanfodol bod y rhai sydd angen cefnogaeth ac arweinyddiaeth yn derbyn y modd priodol ac adnoddau i allu gwneud hynny.” Emily Kaye, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Lanelli.
Clywodd y pwyllgor fod rhestrau aros hir ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Dywedodd dros hanner yr oedolion a ymatebodd i’r arolwg fod yn rhaid i blentyn neu berson ifanc a atgyfeiriwyd ganddynt ar gyfer cymorth aros hyd at flwyddyn cyn cael triniaeth.
"Rwy'n credu bod angen i ni roi gwybodaeth i BOB plentyn am ble i gael cymorth beth bynnag fo’r sefyllfa. Y broblem yw nad yw’r rhan fwyaf o wasanaethau sy’n rhoi help a chymorth yn rhoi hyn nes i chi gyrraedd pen eich tennyn, mae angen i hyn newid!” – person ifanc anneuaidd 16 mlwydd oed o Gaerffili
Clywodd yr aelodau fod diffyg addysg neu wybodaeth ar gael ynghylch iechyd meddwl a'r gwasanaethau a ddarperir. Gwnaethant glywed hefyd am yr angen i roi terfyn ar y stigma sy’n gysylltiedig â’r mater hwn a’r angen i’w normaleiddio, a hynny er mwyn sicrhau bod gan fwy o blant a phobl ifanc yr hyder i siarad am eu teimladau.
"Mae'n dibynnu ar y gwasanaeth/pobl sydd ganddynt yn eu bywydau ... bydd pobl ifanc yn agored i bobl y maent yn teimlo'n gyfforddus â nhw ac yn ymddiried ynddynt i wneud hynny." – Gweithiwr Ieuenctid o Wrecsam.
“Gall cael rhywun arall sy’n mynegi pryder cyn i chi sôn amdano eich hun fod yn ffactor ysgogol enfawr wrth geisio am gymorth. Efallai y byddai'n ddefnyddiol datblygu ffordd o wneud pobl yn ymwybodol o’r arwyddion bod rhywun yn stryglo, os yw hyn yn bosibl.” – Merch 17 oed o Ynys Môn.
Daeth y pwyllgor i'r casgliad nad oedd digon yn cael ei wneud i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt, ac y dylid sicrhau bod llawer mwy o wybodaeth ac addysg ar gael, gan gynnwys ar gyfer plant llawer iau.
Mae'r pwyllgor o’r farn bod y cwricwlwm newydd yng Nghymru, a gaiff ei gyflwyno yn 2022, yn gyfle i ymgorffori iechyd meddwl yn yr ystafell ddosbarth. Yn gysylltiedig â hyn, mae’r pwyllgor o’r farn y dylai ysgolion gynyddu'r amser y mae cwnselwyr ar gael i gefnogi pobl ifanc.
O ran gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS), daeth yr aelodau i'r casgliad bod angen gweithredu ar frys i leihau amseroedd aros. Byddai hyrwyddo mwy ar y gwasanaethau amgen sydd ar gael i’r rhai nad ydynt eto wedi cyrraedd pwynt argyfwng yn galluogi pobl ifanc i ddefnyddio technegau ymdopi a allai, yn eu tro, leihau’r galw ar CAMHS.
Bydd yr adroddiad llawn yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru er mwyn iddi ymateb iddo.
Tair blaenoriaeth y Senedd Ieuenctid
Mae’r adroddiad hwn yn cynrychioli’r ail o dair blaenoriaeth allweddol a bennwyd gan Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod ei chyfarfod cyntaf ym mis Chwefror y llynedd. Dyma'r blaenoriaethau hynny:
Sbwriel a gwastraff plastig (adroddiad i'w gyhoeddi ym mis Tachwedd 2020)
Adroddiad Pwyllgor Senedd am Iechyd Meddwl
Bydd yr adroddiad ar iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yn cael ei gyhoeddi cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref). Mae'n cyd-fynd ag adroddiad arall a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd.
Mae ‘Cadernid Meddwl’ yn ddarn o waith dilynol a wnaed yn sgil yr
ymchwiliad a gynhaliwyd yn 2018 i wasanaethau iechyd meddwl plant yng Nghymru.
Mae'n tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cynnydd cyflym yn
cael ei wneud o ran rheoli effaith pandemig y Coronafeirws ar iechyd meddwl
plant wrth iddynt ddioddef cyfnodau hir pan nad oes modd iddynt fynychu eu hysgolion
na chlybiau, na chwrdd ag aelodau o’u teuluoedd neu ffrindiau.