​Trosglwyddo deiseb: 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia

Cyhoeddwyd 12/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/07/2016

 

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael deiseb sy’n galw am strategaeth i wella bywydau pobl sy’n byw â dementia yng Nghymru.
Dywed y ddeiseb:

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i strategaeth ar ddementia sy’n gwella bywydau pobl sy’n byw â dementia yng Nghymru.

“Amcangyfrifir bod yna 45,000 o bobl yn byw â dementia yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae llai na 50% ohonynt wedi derbyn diagnosis ffurfiol. Mae derbyn diagnosis o ddementia’n grymuso pobl i wneud penderfyniadau am y gofal a’r gefnogaeth y maent yn eu derbyn; mae’n agor y drws i gael at wasanaethau a, lle y bo angen, meddyginiaeth.


“Fodd bynnag, mae’n debygol iawn bod hyd yn oed y rheiny sydd wedi derbyn diagnosis heb dderbyn y wybodaeth a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen er mwyn byw’n dda â dementia. Ni dderbyniodd 1 o bob 10 o bobl â dementia yng Nghymru unrhyw gefnogaeth o gwbl yn y flwyddyn gyntaf ar ôl eu diagnosis, gan adael iddynt ymdopi â’u diagnosis ar eu pen eu hunain.

“Mae pobl sy’n byw â dementia yng Nghymru yn llai tebygol o dderbyn diagnosis, ac maent yn llai tebygol o gael mynediad at gymorth ar ôl diagnosis na’r rheiny sy’n byw yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid i hyn newid.

“Mae arnom eisiau i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth ar ddementia i Gymru, strategaeth sy’n dangos ymrwymiad i wella cyfraddau diagnosis ac sy’n sicrhau’r mynediad at wasanaethau lleol a’r ansawdd gofal y mae pobl sy’n byw â dementia’n ei haeddu.”

Cyflwynwyd y ddeiseb, a gasglodd dros 5,800 o lofnodion i Aelodau’r Pwyllgor Deisebau ddydd Mawrth 12 Gorffennaf.

Mae lluniau o’r ddeiseb yn cael ei throsglwyddo ar gael ar gais.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, gwneud cais am luniau neu gais ffilmio, ffoniwch dîm cyswllt â’r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.


Rhagor o wybodaeth am system ddeisebau’r Cynulliad Cenedlaethol.


Rhagor o wybodaeth am Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.