Trosglwyddo deiseb: Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni

Cyhoeddwyd 12/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/07/2016

​​

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i arwynebu ffordd yr A40 Rhaglan i’r Fenni.

Dywed y ddeiseb:

“Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid yr hen arwyneb concrit ar ffordd yr A40 o Rhaglan i’r Fenni, am darmac tawel (Whispering Tarmac).

“Mae’r Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn (2013-18) yn nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i’r ffordd hon, ar ôl derbyn yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac ar ôl gwneud y mesuriadau. Er hynny, ni chafwyd unrhyw gynnydd er gwaethaf galwadau parhaus gan drigolion, y Cynghorydd Sir lleol , yr Aelod Cynulliad a’r Aelod Seneddol.

“Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn nodi y dylid rhoi’r flaenoriaeth gyntaf i’r ffordd hon, o ystyried y pryderon niferus a godwyd gan y cyhoedd a chynrychiolwyr a’i bod wedi’i nodi o dan Gynllun Gweithredu ynghylch Sŵn presennol Llywodraeth Cymru.”

Cyflwynwyd y ddeiseb, a gasglodd 164 o lofnodion, i Aelodau’r Pwyllgor Deisebau ddydd Mawrth 12 Gorffennaf.