​Trosglwyddo deiseb: Gwelliannau i’r Ddarpariaeth Reilffyrdd yng Nghydweli Sir Gaerfyrddin

Cyhoeddwyd 12/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/07/2016

 

Petitioners present their petition to Mike Hedges AM and Rhun ap Iorwerth AM on the Senedd steps


Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael deiseb sy’n galw am welliannau i’r ddarpariaeth reilffyrdd yng Nghydweli yn Sir Gaerfyrddin.

Dywed y ddeiseb:

“Mae Cydweli yn dref fywiog yn Sir Gaerfyrddin, gyda llawer o atyniadau ymwelwyr, gan gynnwys cei sy’n edrych dros aber y Gwendraeth gydag adar a bywyd gwyllt prin, camlas Kymer, sef camlas hynaf Cymru ac amgueddfa Ddiwydiannol.

“O ran demograffig, mae gan Gydweli gyfran uwch na’r cyfartaledd yn Sir Gaerfyrddin o bobl sydd â salwch hirdymor cyfyngol a’r gyfran uchaf o bobl dros 45 oed yn y sir, yn ôl proffil adran etholiadol 2015 adran Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth Sir Gaerfyrddin.

“Yn ogystal mae llawer o bobl yn cymudo i’r gwaith neu ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol y tu allan i’r dref.

“Materion

“1: Mae’r orsaf yn arhosfan ar gais, ac mae hyn yn achosi problemau, (a) nid yw ymwelwyr, twristiaid a thrigolion newydd yn deall bob amser bod angen iddynt roi arwydd i wneud i’r trên stopio, mae hyn yn golygu bod pobl yn amharod i ddefnyddio’r trenau ac mae hyn o bosibl yn cael effaith negyddol ar economi’r dref (b) ar drenau heb swyddog tocynnau ni all teithwyr llai abl yn gorfforol symud i lawr y trên at y gyrrwr, mae llawer o bobl yn poeni ac yn ofidus y byddant yn mynd heibio i’w harosfan a dywedwyd bod hynny wedi digwydd, (c) mae’n amlwg bod amser wedi’i gynnwys yn yr amserlen er mwyn caniatáu i’r trên stopio, gan y gellid gofyn am hyn ar bob taith, felly mae’r gofyniad o ran cais yn anacronistig ac yn ddiangen. Dylai’r orsaf fod yn arhosfan safonol ac nid yn arhosfan ar gais.

“2. Mae uchder y platfform ar y platfform tua’r gorllewin mor isel fel na all cadair olwyn na phobl â chymhorthion symudedd eraill fynd i mewn nac allan o’r trenau, hyd yn oed gyda system ramp symudol y trên. Mae hyn yn golygu bod y ddarpariaeth yn wahaniaethol o safbwynt cadeiriau olwyn a defnyddwyr eraill sy’n llai abl yn gorfforol.

“3. Nid yw amlder y trenau sy’n gwasanaethu Cydweli yn ddigonol i gefnogi’r gymuned a’r niferoedd posibl o dwristiaid. Mae hyn yn cyfyngu ar deithiau cymdeithasol, masnachol a thwristiaeth, gan gael effaith negyddol ar les cymdeithasol ac economaidd y gymuned.”

Cyflwynwyd y ddeiseb, a gasglodd 138 o lofnodion, i Aelodau o’r Pwyllgor Deisebau ddydd Mawrth 12 Gorffennaf.

Mae lluniau o’r ddeiseb yn cael ei throsglwyddo ar gael ar gais.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, gwneud cais am luniau neu gais ffilmio, ffoniwch dîm cyswllt â’r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.

Rhagor o wybodaeth am system ddeisebau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Rhagor o wybodaeth am Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.