Trosglwyddo Deiseb yn y Senedd - Sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 30/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/10/2015

 

Mae deiseb yn galw am sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol swyddogol yng Nghymru wedi cael ei throsglwyddo i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dyma eiriad llawn y ddeiseb:

Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon, yn annog Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol swyddogol yng Nghymru.  Byddai hyn yn goffâd priodol i bawb a ddioddefodd yn ystod y rhyfel ac yn enwedig i'r rhai a safodd yn nhraddodiad Cymreig heddychiaeth er gwaethaf y cost personol.  Cymru fyddai'r wlad gyntaf i wneud hyn - gweithred a all ysbrydoli eraill i weithredu yn yr un modd.

Mae deiseb yn ffordd o ofyn i'r Cynulliad ystyried unrhyw fater, problem neu gynnig y mae gan y Cynulliad bŵer i wneud rhywbeth yn ei gylch.

Gallwch gael gwybod mwy am ddechrau neu lofnodi deisebau ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.