Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol i graffu y Bil Llywodraeth Cymru cyntaf
9 Rhadfyr 2011
Bydd Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnal ymchwiliad i Fil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru), y gyfraith newydd gyntaf i gael ei chynnig gan Lywodraeth Cymru yn y Pedwerydd Cynulliad.
Bwriad Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) yw symleiddio’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud a gorfodi is-ddeddfau awdurdod lleol. Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau yn ymgynghori ar y lefel leol cyn gwneud is-ddeddf ac yn diddymu’r gofyniad i gael cadarnhad gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.
“Dyma’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth i ddod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ers iddo ennill pwerau deddfu llawn yn sgil y bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm fis Mawrth diwethaf,” meddai Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
“Hefyd, hwn fydd y Bil cyntaf y cynhelir gwaith craffu mewn perthynas ag ef o dan y strwythur pwyllgorau a sefydlwyd ar ddechrau tymor y Cynulliad newydd.
“Rwy’n yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes arbennig hwn i edrych ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad hwn a chyfrannu eu syniadau a’u safbwyntiau.”