Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ymchwiliad i bresenoldeb ac ymddygiad disgyblion yng Nghymru

Cyhoeddwyd 11/12/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ymchwiliad i bresenoldeb ac ymddygiad disgyblion yng Nghymru

11 Rhagfyr 2012

Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i helpu i lywio ei ymchwiliad i bresenoldeb ac ymddygiad disgyblion yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried pa mor effeithiol yw strategaethau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a phresenoldeb. Bydd y Pwyllgor yn ystyried nifer o faterion, gan gynnwys gwahardd disgyblion; pa gefnogaeth a hyfforddiant sy'n cael ei roi i athrawon; ac a oes cysylltiadau da rhwng rhieni ac ysgolion er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn.

Yn benodol, mae'r Pwyllgor yn awyddus i wybod beth y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ei wneud i leihau cyfraddau absenoldeb ymhellach ledled Cymru. Bydd yn ystyried y cynnydd o ran gweithredu 'Gwneud Gwahaniaeth i Ymddygiad a Phresenoldeb, Cynllun Gweithredu ar gyfer 2011-2013', a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg ym mis Mawrth y llynedd.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: "Er bod cyfraddau absenoldeb yn gostwng ac wedi gwneud hynny yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud bod angen gwneud rhagor o waith.

"Mae Cymru yn dal i fod y tu ôl i rannau eraill o'r DU o ran lleihau'r cyfraddau hyn. Bydd y Pwyllgor yn ystyried pam mae hynny'n wir a pha welliannau sydd angen eu gwneud.

"Hoffem glywed sylwadau a syniadau gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y materion hyn."

Gall unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu at yr ymgynghoriad naill ai anfon e-bost at: PwyllgorPPI@cymru.gov.uk neu anfon llythyr at: Clerc y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw dydd Gwener 18 Ionawr 2013.