Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn agor ei ymgynghoriad ar y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

Cyhoeddwyd 30/04/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn agor ei ymgynghoriad ar y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

30 Ebrill 2012

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ceisio barn y cyhoedd ar y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru).

Mae’r Bil, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn amlinellu nifer o gynigion a fydd, yn ôl y Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef, ‘yn gwneud ysgolion yn fwy atebol drwy gyfuno, diweddaru a thynhau safonau a dulliau rheoli’.

Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn galw am dystiolaeth wrth iddo ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil.

Bydd y cwesiynau a ganlyn yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor:

-      a yw’r Bil yn angenrheidiol;

-      a yw’n cyflawni ei ddiben datganedig;

-      a yw’r darpariaethau allweddol sydd wedi’u nodi yn y Bil yn briodol;

-      beth yw’r rhwystrau posibl rhag gweithredu’r darpariaethau allweddol hyn; ac

-      a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn codi o’r Bil.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, “Mae’r Bil hwn yn trafod datblygiad plant yng Nghymru yn y dyfodol, ac os y caiff ei basio yn ei ffurf bresennol, gallai olygu goblygiadau pellgyrhaeddol i ysgolion, colegau ac awdurdodau addysg, a rhoi pwerau pellgyrhaeddol iddynt hefyd.”

“Gofynnaf i unrhyw un sydd â barn neu syniadau i’w cynnig yn y maes hwn i ystyried y Bil a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef, a’n helpu i ateb y cwestiynau allweddol y byddwn yn eu gofyn.”

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil yn cau ar 22 Mehefin 2012.

Memorandwm Esboniadol, am y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

Mae’r Bil wedi cyrraedd Cyfnod 1 ym mhroses ddeddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Ceir cyflwyniad i ddeddfwriaeth yng Nghymru yma.

Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.