Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am ‘adolygiad drwyddi draw’ o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

Cyhoeddwyd 17/12/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am ‘adolygiad drwyddi draw’ o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

17 Rhagfyr 2012

Mae angen ‘adolygiad drwyddi draw’ o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud yr argymhelliad yn ei adroddiad ar Gyllid Strwythurol yr UE. Canfu’r Pwyllgor er bod y systemau ar gyfer dosbarthu cronfeydd o’r fath i brosiectau yng Nghymru yn effeithiol ar y cyfan, roedd yn anodd canfod pa ganlyniadau oedd yn cael eu cyflawni.

Bydd Cyllid Strwythurol yr UE wedi cyfrannu dros £1.5 biliwn i Gymru rhwng 2007 a 2013. Ei nod yw helpu i adfywio ardaloedd lle mae llawer o ddiweithdra, creu economi cynaliadwy a chystadleuol a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mae’r Pwyllgor am weld Llywodraeth Cymru yn diffinio ei blaenoriaethau strategol ar gyfer y rownd cyllido nesaf yn 2014 a rôl WEFO wrth fonitro a gwerthuso cynnydd.


Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, “Mae gan y Pwyllgor bryderon dros ddiffyg arweinyddiaeth, cydlyniad a monitro a pha effaith y mae’r cronfeydd hyn yn ei chael ar gymunedau yng Nghymru.”

“Felly, rydym am weld adolygiad cyfanwerthu o ddiben a rôl Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a diffiniad clir o flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

“Mae cam o’r fath yn bwysig gan fod y rownd cyllid Ewropeaidd diweddaraf hwn yn dod i ben yn 2013 ac mae trafodaethau ymysg aelod-wladwriaethau dros ddyfodol cyllideb yr UE newydd ddechrau.

“Mae’n rhaid i Gymru allu dangos sut mae’n defnyddio’r arian yn synhwyrol ac yn effeithiol.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 16 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Mae adolygiad Llywodraeth Cymru o drefniadau ar gyfer gweithredu rhaglenni Cronfa Strwythurol Ewropeaidd ar ôl 2013 yn rhoi ystyriaeth annibynnol, diymatal a chreadigol o rôl, cyfrifoldebau a strwythur WEFO yn y dyfodol.

  • Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio ei blaenoriaethau strategol ar gyfer y rownd cyllido nesaf mewn fformat clir a hygyrch cyn gynted ag y bo modd, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr etifeddiaeth a fwriadwyd yn sgîl y gwario.

  • Mae Llywodraeth Cymru yn gwella’r ffordd y cesglir a dadansoddir data caffael a chontract er mwyn cael trosolwg strategol yn lleol a rhanbarthol o’r canlyniadau hirdymor a gyflawnir ac a fwriedir o brosiectau a ariennir gan gronfa strwythurol Ewrop.

  • Cyn y Rownd Cyllido Ewropeaidd nesaf, mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ei phrosesau ar gyfer ymgeiswyr sy’n gwneud cais am arian gan WEFO, gyda’r bwriad o sicrhau eu bod yn briodol gadarn ac y cafwyd gwared ar unrhyw fiwrocratiaeth ddiangen. Ystyriwn y dylai’r adolygiad hwn gael ei wneud mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid priodol.