Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am ddatganoli mwy o bwerau dros drafnidiaeth gyhoeddus
22 Mai 2013
Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am ddatganoli mwy o bwerau mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r Pwyllgor Menter a Busnes wedi dod i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru gael mwy o rôl yn y broses o ddyfarnu masnachfreintiau rheilffyrdd, y dylid cael cytundeb statudol â Network Rail a phwerau i reoleiddio a chofrestru bysiau yng Nghymru.
Mae Aelodau'r Pwyllgor o'r farn bod y pwerau hyn yn angenrheidiol i ddarparu system trafnidiaeth gyhoeddus hawdd a di-dor ledled y wlad.
Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor bod tlodi trafnidiaeth yn broblem gudd yng Nghymru gyda chwarter o gartrefi heb gar.
Clywodd hefyd fod mwy na 1.5 miliwn o bobl yn methu â chyrraedd gwasanaethau allweddol oherwydd trafnidiaeth annigonol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Fodd bynnag, wrth alw am ddatganoli mwy o bwerau, mae'r Pwyllgor hefyd yn nodi nad oes digon yn cael ei wneud gyda'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli. Yn arbennig, roedd Aelodau o'r farn nad yw polisi a strwythurau ariannu Cymru yn addas ar gyfer datblygu trafnidiaeth integredig.
Nododd y Pwyllgor bryder ynghylch diffyg uchelgais a dychymyg ymysg rhai o'r unigolion a'r sefydliadau sy'n allweddol o ran cynllunio a darparu trafnidiaeth integredig.
Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, “Mae'r Pwyllgor o'r farn y dylai pobl yng Nghymru allu defnyddio system trafnidiaeth gyhoeddus integredig syml a di-dor at ba bynnag ddiben y mynnant, p'un a ydynt am alw i'r siop leol neu deithio ar draws Cymru ar gyfer cyfarfod pwysig.
“Clywodd y Pwyllgor fod trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn hynod o anodd ei gyflawni, ond rydym o'r farn nad yw'r systemau presennol yn gweithio'n ddigon da.
“Mae angen pwyso mwy ar weithredwyr trafnidiaeth i weithio gyda’i gilydd a chyda rhanddeiliaid i roi’r arferion gorau ar waith o ran cyd-drefnu amserlenni, cysylltu gwasanaethau a chyhoeddi gwybodaeth amser real ar gyfer rhwydweithiau bysiau, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gymunedol.
“Mae'r Pwyllgor yn galw am ddatganoli pwerau sylweddol yn ymwneud â gwasanaethau rheilffordd a bws i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu ymhellach ei chynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus integredig.
“Fodd bynnag, rydym hefyd o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy gyda'r pwerau sydd eisoes ganddi, gan gynnwys y Biliau diwygio cynllunio a theithio llesol sydd ar ddod, i sicrhau bod ei pholisi yn cael ei gydlynu a'i ddarparu'n effeithiol yn genedlaethol ac yn rhanbarthol.”
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 25 argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:
Parhau i lobïo Llywodraeth y DU am fwy o rôl yn y broses o ddyfarnu masnachfreintiau rheilffyrdd fel y mae’n effeithio ar Gymru, yn arbennig y pwerau i bennu cytundebau masnachfraint sydd at ei gilydd yn cynnwys gwasanaethau i Gymru’n unig, megis Masnachfraint Cymru a’r Gororau ar hyn o bryd.
Parhau i lobïo Llywodraeth y DU am ddatganoli rheoleiddio a chofrestru bysiau i Gymru, gan gynnwys gwneud Comisiynydd Traffig Cymru yn atebol i Weinidogion Cymru.
Defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael iddi i alluogi integreiddio ar drafnidiaeth gyhoeddus, a sicrhau bod gan staff ar bob lefel o lywodraeth y sgiliau a’r arfau i wireddu polisi trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol.
Pwyso ar yr holl weithredwyr trafnidiaeth i weithio gyda’i gilydd a chyda rhanddeiliaid perthnasol i roi’r arferion gorau ar waith o ran cyd-drefnu amserlenni, cysylltu gwasanaethau a chyhoeddi gwybodaeth amser real er mwyn darparu cysylltiadau di-dor rhwng rhwydweithiau bysiau, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gymunedol.
Yn ystod yr ymchwiliad bu Aelodau’r Pwyllgor, fel rhan o’u diwrnod gwaith, yn teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn unig. Cafodd y teithiau eu ffilmio ar gyfer cyfres o ddyddiaduron fideo.
Teithiodd Nick Ramsay AC o Gaerdydd i Abertawe
Teithiodd Alun Ffred Jones AC o Gaernarfon i Gaerdydd
Teithiodd Eluned Parrott AC o’r Rhws i Gaerdydd