Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am fesurau newydd i ddatblygu’r sector ynni fel sbardun economaidd tra’n diogelu cymunedau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 27/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am fesurau newydd i ddatblygu’r sector ynni fel sbardun economaidd tra’n diogelu cymunedau yng Nghymru

27 Mehefin 2012

Yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dylai Llywodraeth Cymru arwain drwy esiampl ac annog eraill i ddileu’r rhestr aros am geisiadau ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru a sefydlu bwrdd cyflawni ynni adnewyddadwy i gydlynu datblygiadau ynni.

Mae adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi ei hachos dros datganoli ymhellach bwerau i gydsynio i brosiectau ynni ac ysgogi ariannol a sicrhau bod prosesau ysgogi prosiectau ynni tonnau a llanw morol yng Nghymru gystal â rhai yn yr Alban.

Yn ystod ei ymchwiliad i ynni a chynllunio, clywodd y Pwyllgor bryderon gan gymunedau ynghylch sut y cafodd polisïau a datblygiadau ynni eu cyflwyno a’u trafod yn y gorffennol. Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gwblhau ei gwaith gyda datblygwyr a Renewable UK Cymru yn ddi-oed a sicrhau bod y buddion hyn yn cael eu hymestyn i gymunedau y mae ffyrdd newydd neu welliannau a wnaethpwyd i’r grid trydan yn effeithio arnynt.

Mae’r Pwyllgor yn cefnogi’r dull ecosystemau mae Llywodraeth Cymru wedi’i mabwysiadu, ac yn edrych ymlaen at weld hyn yn cael ei ddatblygu.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas AC, Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Yn ystod yr ymchwiliad, daeth i’r amlwg bod gan y sector ynni yng Nghymru gyfraniad pwysig i’w wneud i gwrdd â thargedau cynhyrchu ynni adnewyddadwy yr Undeb Ewropeaidd. Byddai hynny’n helpu i ostwng lefelau nwyon ty gwydr ac yn helpu’r economi.”

“Mae’n hanfodol bod pobl ledled Cymru yn elwa o’r potensial enfawr sydd gan ynni adnewyddadwy, naill ai ar y tir neu ar y môr, ond rydym yn cydnabod ar yr un pryd bod angen rheoli’r effaith y gallai hyn ei chael ar gymunedau a’r amgylchedd yn ofalus.”

“Mae sicrhau dyfodol cynaliadwy yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom. Mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae os ydym am ymateb i’r her ac achub ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau ni.”

Mae’r adroddiad llawn, sy’n cynnwys dros 70 o argymhellion, a rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gael yma.