Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am ragor o wasanaethau cymorth gordewdra arbenigol ledled Cymru

Cyhoeddwyd 21/05/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am ragor o wasanaethau cymorth gordewdra arbenigol ledled Cymru

21 Mai 2014

Yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol, dim ond yn un o’r saith bwrdd iechyd lleol yng Nghymru y mae gwasanaethau ‘Lefel Tri’ arbenigol digonol ar gael i bobl ordew.

Daeth ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r casgliad bod Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio’n briodol ar fynd i’r afael â gordewdra, ond mae angen ei weithredu’n llawn yn genedlaethol er mwyn sicrhau gwasanaethau cyson o safon uchel i bob claf, i’w helpu gyda’i ffordd o fyw, ei ffitrwydd a’i ddeiet.

Roedd chwech allan o bob deg oedolyn yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew yn 2012, yn ôl Arolwg Iechyd Cymru. Mae bron i chwarter yr holl oedolion yn y categori gordew. Mae hefyd yn broblem ymhlith plant yng Nghymru gyda mwy na thraean o bobl ifanc o dan 16 oed dros eu pwysau neu’n ordew.

Amcangyfrifir bod gordewdra yn costi £73 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru, ac mae’n cyfrannu i gyflyrau fel iselder, diabetes, rhai mathau o ganser, pwysedd gwaed uchel ac apnoea cwsg.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "Mae Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru yn ddogfen strategol gynhwysfawr i’w chanmol ond, yn anffodus, nid yw wedi’i gweithredu’n llawn ledled Cymru.

"Mae’n amlwg yn peri pryder mai dim ond un o’r saith bwrdd iechyd lleol yng Nghymru sy’n cynnig gwasanaethau cymorth gordewdra ‘Lefel Tri’ arbenigol llawn, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i bennu amserlen i’r byrddau eraill ei dilyn.

"Mae’n hynod o bwysig cael darpariaeth ddigonol o ran cymorth deietegol, corfforol ac ymddygiadol er mwyn osgoi llawdriniaeth, sy’n opsiwn difrifol ac eithafol, y gall arwain at ganlyniadau hirdymor yn ogystal â manteision i gleifion. Yn ein barn ni, dim ond fel dewis olaf y dylid ystyried llawdriniaeth.

"Yn ogystal ag effaith gymdeithasol, seicolegol ac economaidd gordewdra ar yr unigolyn, mae’n costi miliynau i’n gwasanaethau iechyd bob blwyddyn ac mae’r ffigurau’n dangos ei bod yn datblygu’n broblem ddifrifol ymhlith ein plant hefyd.

"Mae’n hanfodol inni ddarparu cymaint o gymorth a phosibl wrth fynd i’r afael â’r broblem hon ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried ein canfyddiadau."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud wyth argymhelliad yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd lleol i ddarparu amlinelliad eglur o’r camau a gymerir i roi Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan ar waith yn llawn, a darparu manylion am yr amserlenni cysylltiedig;

  • Bod Llywodraeth Cymru yn rhoi sicrwydd y bydd yn mynnu bod cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol a’r fanyleb gwasanaeth Lefel 3 Cymru gyfan sydd ar ddod yn cynnwys mesurau i fynd i’r afael â’r diffyg gwasanaethau amlddisgyblaethol a ddarperir yng Nghymru o fewn y 12 mis nesaf;

  • Bod Llywodraeth Cymru yn datblygu a chyhoeddi fframwaith monitro a gwerthuso ar gyfer gwasanaethau bariatrig yng Nghymru, sydd hefyd yn dangos llinellau atebolrwydd, i fesur cysondeb ac effeithiolrwydd y llwybr atgyfeirio ar gyfer cleifion sydd dros bwysau a chleifion gordew er mwyn iddynt symud i fyny ac i lawr yr haenau cymorth perthnasol.

Adroddiad: Argaeledd gwasanaethau bariatrig

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig yng Nghymru ar gael yma.