Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am werthuso cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â gordewdra plant

Cyhoeddwyd 26/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am werthuso cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â gordewdra plant

26 Mawrth 2014

Dylai Llywodraeth Cymru werthuso ei chynlluniau niferus i fynd i’r afael â gordewdra plant, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn sylweddoli nad oes un ateb penodol i’r broblem, ond mae’n pryderu na allai Llywodraeth Cymru ddangos pa mor effeithiol yw rhai o’i rhaglenni.

Gofynnodd y Pwyllgor hefyd pam nad oedd Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan, y pecyn cymorth a gynlluniwyd i gynorthwyo pob sefydliad iechyd a sefydliad gofal cymdeithasol yn y wlad i drin y cyflwr, wedi’i roi ar waith yn llawn, er ei fod wedi’i gyhoeddi ers 2010.

Cyfraddau gordewdra plant yng Nghymru yw’r uchaf yn y DU, gyda 35 y cant o blant dros bwysau neu’n ordew yn 2011.

Mae’r Pwyllgor yn pryderu nad oes gwasanaethau ar lefel tri ar gael ar hyn o bryd, i drin gordewdra mewn pobl ifanc yng Nghymru. Mae gwasanaethau ar lefel tri yn cyfeirio at wasanaethau gofal un-ac-un gan dîm aml-ddisgyblaethol arbenigol, sy’n rheoli rhaglenni deietegol, ymarfer corff a newid ymddygiad.

Derbynia’r Pwyllgor mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw sefydlu gwasanaethau ar lefel un a dau, sy’n canolbwyntio ar atal gordewdra, a thriniaeth gymunedol a gofal sylfaenol. Fodd bynnag, mae diffyg gwasanaethau ar lefel tri, yn ei hanfod, yn golygu bod yn rhaid i blant a phobl ifanc aros nes maent yn oedolion cyn y gellir ystyried camau pellach ar eu cyfer.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: “Gordewdra plant yw un o’r problemau pwysicaf y mae angen i ni fynd i’r afael â hi, nid o ran y sefyllfa ar hyn o bryd yn unig, ond o ran yr effeithiau tymor hir ar bobl yng Nghymru.

“O fynd i’r afael â’r broblem yn gynnar, gellir hybu delwedd iach a gaiff ei hymgorffori yn y person drwy gydol ei oes, a byddai hynny’n arwain at lai o ddibyniaeth ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

“Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio sawl dull o fynd i’r afael â’r broblem, ond mae’n pryderu nad yw’n gallu dangos pa mor effeithiol yw’r rhaglenni gwahanol hyn.

“Rydym am weld Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan yn cael ei weithredu’n llawn ledled Cymru. Dylai pob person ifanc deimlo’n hyderus y gall gael y cymorth sydd ei angen arno, pan fydd arno ei angen, ble bynnag y mae’n byw yng Nghymru.

“Rydym hefyd yn pryderu ynghylch y diffyg triniaeth ar lefel 3 sydd ar gael i blant a phobl ifanc. Mae’r driniaeth hon yn hanfodol ar gyfer pobl ifanc sydd angen y cymorth mwyaf, gan fod yn rhaid iddynt aros nes maent yn 18 cyn yr ystyrir rhoi rhagor o driniaeth iddynt. Erbyn hynny, gallai’r niwed fod wedi’i wneud.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o’r cynnydd a wnaed gan fyrddau iechyd lleol o ran bodloni’r gofynion lleiaf ar gyfer gwasanaethau ar bob lefel o’r Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan;

  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau lefel 3 ar gyfer plant yn cael eu rhoi ar waith ledled Cymru. Dylai’r Gweinidog nodi’r canfyddiadau wrth y Pwyllgor mewn da bryd ynghylch y cynnydd a wnaed;

  • Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi fframwaith gwerthuso ar gyfer ei strategaethau’n ymwneud â gordewdra plant, er mwyn sicrhau bod modd monitro perfformiad y strategaethau hynny yn ddibynadwy yn ôl y canlyniadau;

  • Dylai Llywodraeth Cymru barhau gyda'r Rhaglen Mesur Plant, a'i hymestyn, gan nodi'n glir sut y defnyddir y data i fonitro a gwerthuso rhaglenni gordewdra ymhlith plant a phlant dros bwysau;

  • Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati mewn modd amserol i gyhoeddi adroddiad ar y camau a gymerir gan Is-Bwyllgor Cabinet newydd Llywodraeth Cymru sy'n edrych ar annog plant a phobl ifanc i wneud mwy o weithgarwch corfforol, gan gyfeirio'n benodol at effaith cyfyngiadau cyllidebol ar y cyfleusterau hamdden a ddarperir gan awdurdodau lleol a’r camau a gymerir er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws adrannau i gynyddu lefelau cyfranogi; a

  • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall deddfwriaeth sydd ar ddod, fel Bil Cenedlaethau'r Dyfodol, y Bil Cynllunio a Bil Iechyd y Cyhoedd, gael ei defnyddio i ymdrin â gordewdra ymhlith plant. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn ôl i'r Pwyllgor hwn ar ei gasgliadau cyn gynted â phosibl.

Adroddiad: Ymchwiliad i Ordewdra ymysg Plant

Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i ordewdra plant.