Bydd ymchwiliad newydd gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych yn fanwl ar effeithiau camddefnyddio alcohol a sylweddau ar bobl yng Nghymru, polisïau presennol Llywodraeth Cymru, a'r gwasanaethau lleol a gaiff eu darparu ledled Cymru.
Bydd ymchwiliad y Pwyllgor yn datblygu'r gwaith y mae'n ei gynnal ar hyn o bryd ar sylweddau seicoweithredol newydd ("legal highs"), y bydd yn cyflwyno adroddiad arno yn y flwyddyn newydd.
Fel rhan o'r ymchwiliad, mae'r Pwyllgor yn galw am dystiolaeth ar:
- effeithiau camddefnyddio alcohol a sylweddau ar bobl yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc a myfyrwyr mewn prifysgolion; pobl hŷn; pobl ddigartref; a phobl sydd yn y ddalfa gan yr heddlu neu mewn carchardai;
- effeithiolrwydd polisïau presennol Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol a sylweddau, ac unrhyw gamau pellach a all fod eu hangen;
- a oes gwasanaethau lleol ar gael ar draws Cymru ac a all y gwasanaethau hynny godi ymwybyddiaeth o'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau, a mynd i'r afael â'r effaith hwn.
Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi arolwg ar-lein i annog pobl ifanc i roi eu barn a chyfrannu at yr ymchwiliad.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn holi Llywodraeth Cymru, yr heddlu, y gwasanaethau iechyd a sefydliadau perthnasol eraill i ddarganfod beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol a sylweddau yng Nghymru.
Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Gall camddefnyddio alcohol a sylweddau gael effeithiau andwyol ar unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau.
Fersiwn fideo amgen o "Ymgynghoriad: Alcohol a Chamddefnydd"
"Rydym eisiau gwybod beth sy'n gwneud i bobl ddefnyddio cyffuriau neu alcohol, ac a yw'r dull gweithredu cenedlaethol a'r gwasanaethau lleol cywir ar waith i godi ymwybyddiaeth ac i roi cymorth i bobl pan fydd ei angen arnynt."
Dyddiad cau'r ymgynghoriad yw dydd Gwener, 9 Ionawr 2015, a bydd rhagor o wybodaeth am yr arolwg ar-lein ar gael drwy ffrwd Twitter y Pwyllgor, @IechydSenedd.
Gall pobl hefyd ymuno â'r sgwrs drwy ddefnyddio'r hashnod #ASMinquiry.
Os yw camddefnyddio alcohol neu sylweddau wedi effeithio arnoch chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â Dan 24/7 am gyngor. Mae Dan 24/7 yn llinell gymorth gyfrinachol sydd ar gael yn ddi-dâl i unrhyw un yng Nghymru sy'n dymuno cael gwybodaeth ychwanegol neu help mewn perthynas â chyffuriau neu alcohol.
Rhadffôn: 0808 808 2234
neu anfonwch neges destun DAN at: 81066
FIDEO: Cadeirydd y Pwyllgor yn siarad am yr ymchwiliad
Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad ar gael yma
Rhagor o fanylion am waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Fersiwn fideo amgen o "Ymgynghoriad: Alcohol a Chamddefnydd"
Cymorth i ddarllen fframiau
URL fideo ar YouTube (bydd yn agor mewn ffenestr newydd)
https://www.youtube.com/watch?v=cgIB_K0ZrUA
Testun amgen
Mae'r fideo'n dangos David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn egluro sut y bydd yr ymchwiliad hwn gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar effeithiau camddefnyddio alcohol a sylweddau ar bobl yng Nghymru, polisïau presennol Llywodraeth Cymru a'r ddarpariaeth leol ledled Cymru.
Chwaraewyr fideo
Dyma restr o chwaraewyr fideo hygyrch sydd ar gael i'r cyhoedd. Lle y bo'n bosibl, mae cyfeiriadau URL y fideos perthnasol wedi'u llwytho i'r chwaraewyr ar ôl y linc cychwynnol a'r disgrifiad.
www.accessyoutube.org.uk (yn cynnwys rhyngwyneb gwylio mwy o faint)
http://accessyoutube.org.uk/play/?v=_leuN1xcq5o&s=national+assembly+for+wales+consultation&n=1
www.icant.co.uk (yn cynnwys rhyngwyneb gwylio mwy o faint). Bydd angen i chi gopïo a gludo'r URL yma:
https://www.youtube.com/watch?feature=player_embedded&v=cgIB_K0ZrUA
www.visionaustralia.org/digital-access-youtube (yn cynnwys rhyngwyneb gwylio mwy o faint, a gallwch ddefnyddio eich bysellfwrdd i reoli gosodiadau YouTube fel yr isdeitlau): bydd angen llwytho meddalwedd
I gael rhagor o wybodaeth am hygyrchedd fideos ar ein gwefan, ewch i'n
tudalen Hygyrchedd.