Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymgynghoriad ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)
07 Rhagfyr 2012
Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru).
Byddai’r Bil, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn newid y system o roi organau yng Nghymru o’r system bresennol lle mae pobl yn dewis rhoi eu horganau, i un lle byddai’n rhaid i bobl optio allan os nad ydynt am roi.
Bydd y Pwyllgor yn ystyried a fydd angen cyfraith newydd er mwyn cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ac, os felly, p’un a all y Bil gyflawni’r amcanion hynny.
Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, “Mae hwn yn fater emosiynol iawn sy’n effeithio ar bob person yng Nghymru.”
“Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynnal ymgynghoriad sylweddol ar y Bil hwn cyn ei gynnig.
“Dyma gyfle i edrych arno eto gyda golwg newydd, a dyma un o’r troeon olaf y gall pobl gyfrannu ato cyn i’r Cynulliad benderfynu p’un a ddylai ddod yn gyfraith.
“Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb mewn rhoi a thrawsblannu organau dynol i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn.”
Gall unrhyw un sydd am gyfrannu wneud hynny drwy anfon e-bost at PwyllgorIGC@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 18 Ionawr.