Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd 01/02/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol

01 Chwefror 2013

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Llywodraeth Cymru sydd wedi cynnig y Bil, ac mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi:

Mae Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn darparu ar gyfer un Ddeddf i Gymru sy’n dwyn ynghyd ddyletswyddau a swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â gwella llesiant y bobl hynny y mae angen gofal a chymorth arnynt, a'r gofalwyr hynny y mae angen cymorth arnynt. Mae’r Bil yn darparu’r fframwaith statudol ar gyfer gwireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i integreiddio’r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cynorthwyo pobl o bob oed, a chynorthwyo pobl fel rhan o deuluoedd a chymunedau.

Bydd yn trawsnewid y modd y caiff y gwasanaethau cymdeithasol eu darparu, yn bennaf drwy hybu annibyniaeth pobl er mwyn rhoi mwy o lais a rheolaeth iddynt. Bydd integreiddio a symleiddio’r gyfraith ar gyfer pobl hefyd yn rhoi mwy o gysondeb ac eglurder i’r bobl hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau cymdeithasol, eu gofalwyr, staff yr awdurdodau lleol a’r cyrff sy’n bartneriaid iddynt, y llysoedd a’r farnwriaeth. Bydd y Bil yn hybu cydraddoldeb ac yn gwella ansawdd gwasanaethau a’r wybodaeth a gynigir i bobl, yn ogystal â sicrhau bod yna gymhellion priodol i gomisiynwyr sicrhau bod yna bwyslais ar y cyd ar atal ac ymyrryd yn gynnar.

Dyma rai o’r materion y mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ceisio mynd i’r afael â hwy fel rhan o’i ymgynghoriad:

  • a yw’r Bil yn cyflawni’r dibenion a bennwyd iddo;

  • prif ddarpariaethau’r Bil, ac a ydynt yn briodol i gyflawni ei ddibenion;

  • unrhyw rwystrau posibl i roi’r prif ddarpariaethau ar waith ac a yw’r Bil yn eu hystyried; ac

  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil;

Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Bwriad Llywodraeth Cymru yn achos y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol yw helpu i wella llesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, ond hefyd lesiant y bobl sy’n darparu’r gofal hwnnw.”

“Rôl y Pwyllgor yn y cyfnod hwn o’r broses ddeddfu yw penderfynu a fyddai’r Bil yn cyflawni hynny pe bai’n dod yn gyfraith, neu a ellid defnyddio deddfwriaeth sy’n bodoli eisoes i gael yr un effaith.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n derbyn gofal, neu sy’n gofalu am rywun, i ystyried y Bil hwn, gan gynnwys yr effaith y gallai ei chael ar eu bywydau ac a fydd yn cael effaith gadarnhaol neu beidio.”

Dyddiad cau yr ymgynghoriad cyhoeddus yw Dydd Gwener 15 Mawrth 2013.

Gall unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth naill ai anfon e-bost at PwyllgorIGC@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc Deddfwriaeth, y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.

Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Linc i ragor o wybodaeth am y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)