Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn tynnu sylw at beryglon sy’n gysylltiedig â’r un corff amgylcheddol arfaethedig

Cyhoeddwyd 27/04/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn tynnu sylw at beryglon sy’n gysylltiedig â’r un corff amgylcheddol arfaethedig

27 Ebrill 2012

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynegi pryder ynglyn â chynnig i ffurfio un corff amgylcheddol newydd i Gymru, ar ôl ystyried yr achos busnes dros ei sefydlu.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru i ffurfio un asiantaeth sydd â chyfrifoldeb dros y meysydd sydd yng ngofal y tri chorff ar hyn o bryd.

Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan randdeiliaid a oedd yn pryderu a fyddai’r asiantaeth newydd yn gallu sicrhau’r cydbwysedd iawn rhwng cadwraeth natur a chanlyniadau economaidd a chymdeithasol. Tynnodd rhanddeiliaid sylw at yr angen i wneud trefniadau cadarn i wahanu’r swyddogaethau trwyddedu a chynghori o fewn un corff.

Codwyd amheuon hefyd gan rai a gyflwynodd dystiolaeth ynglyn â’r manteision o gynnwys Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn rhan o’r sefydliad newydd, a chanfu’r Pwyllgor fod peryglon y mae angen mynd i’r afael â hwy o hyd ynghylch cynnwys Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn y corff arfaethedig.

Mynegwyd y pryderon mewn adroddiad a anfonwyd at John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: “Mae’r rhain yn bryderon amlwg ac ymarferol gan unigolion a mudiadau sy’n gweithio gyda’r tri chorff o ddydd i ddydd ar hyn o bryd ac nid yw’n glir eto a oes sail i’r pryderon hyn.”

“Drwy dynnu sylw Llywodraeth Cymru at y pryderon gobeithiwn y bydd modd osgoi’r materion hyn ac y bydd y broses o newid i un corff amgylcheddol yn cael ei chwblhau mor llyfn â phosibl.

“Byddwn yn cadw golwg fanwl ar y broses o sefydlu’r corff hwn a’i ddatblygiad yn y dyfodol.”