Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn tynnu sylw at y tair ‘C’ sy’n angenrheidiol i sicrhau sector caffael gwell

Cyhoeddwyd 15/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn tynnu sylw at y tair ‘C’ sy’n angenrheidiol i sicrhau sector caffael gwell

15 Mai 2012

Creadigrwydd, cymhwysedd a chapasiti yw’r agweddau allweddol ar gyfer caffael cyhoeddus llwyddiannus yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae grwp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes wedi dod i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru yn cael cyfle pwysig i ailedrych ar ei threfn gaffael bresennol, a fydd yn caniatáu iddi fynd i’r afael ag unrhyw wendidau ac ymchwilio i unrhyw rwystrau posibl i fusnesau yng Nghymru sy’n ceisio cael mynediad i’r farchnad gaffael gyhoeddus.

Mae’r cyfle’n cyd-fynd â chyhoeddi cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer diwygio a moderneiddio polisi caffael cyhoeddus.

Ar y cyfan, canfu’r grwp gorchwyl a gorffen nad yw rheolau caffael presennol yr UE eu hunain yn broblem, ond y ffordd y cânt eu rhoi ar waith sy’n creu rhwystr.

Dywedodd Julie James AC, Cadeirydd y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael, “Mae caffael cyhoeddus yn sbardun pwysig i dwf economaidd a chyflogaeth.”

“Mae’n rhaid bod yn llawer mwy uchelgeisiol ynghylch y sector caffael cyhoeddus, ac mae arweinyddiaeth strategol yn hanfodol i godi statws caffael, fel proffesiwn ac o ran yr hyn y gall ei gyflawni.

“Rydym yn croesawu adolygiad Llywodraeth Cymru o bolisi caffael cyhoeddus, o dan arweiniad John McClelland CBE, a gobeithio y caiff ein hargymhellion eu hystyried ochr yn ochr â’r adolygiad hwnnw.”

Yn ystod yr ymchwiliad, tynnodd y grwp gorchwyl a gorffen sylw at y ffaith bod egwyddor sybsidiaredd yr UE yn cael ei thorri. Sybsidiaredd yw’r broses y gall seneddau cenedlaethol ei defnyddio i herio cynigion deddfwriaethol ar lefel Ewropeaidd os ydynt o’r farn y byddai amcanion yn cael eu cyflawni’n well ar lefel leol, genedlaethol neu ranbarthol.

Ar yr achlysur hwn, cafodd cynnig yr UE i greu un ‘corff trosolwg’ cenedlaethol ar gyfer caffael i aelod wladwriaethau ei herio gan y grwp gorchwyl a gorffen.

Cefnogwyd y farn hon gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, ac ysgrifennodd y Pwyllgor hwnnw at Senedd y DU. Ysgogodd hyn gefnogaeth Senedd y DU.

Dyma’r tro cyntaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru godi pryder fel hyn o dan Gytuniad Lisbon Ewrop.