Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried y newidiadau sydd eu hangen ar ôl cyflwyno Bil Cymru

Cyhoeddwyd 24/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/09/2014

​Bydd Bil Cymru, sy'n mynd drwy ddau Dy'r Senedd ar hyn o bryd, os caiff ei basio, yn golygu y caiff pwerau benthyca a threthu eu datganoli i Gymru ynghyd â'r gallu i'r Cynulliad ddeddfu mewn perthynas â'i weithdrefn gyllidebol ei hun.

Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal ymchwiliad i nodi pa newidiadau y mae angen eu gwneud i Weithdrefnau Cyllidebol Cymru a sut y gellir adlewyrchu'r rhain yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor wedi argymell y dylai proses gyllidebol newydd lynu wrth y deg "Egwyddor ar gyfer Llywodraethu Cyllidebol" a gyhoeddwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a chydymffurfio ag Egwyddorion drafft presennol ar gyfer Llywodraethu Cyllidebol yr OECD hyd nes y cânt eu cadarnhau.

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn awyddus i weld y trefniant presennol o ddyraniadau syml i bortffolios gweinidogol yn cael ei ddisodli gan broses gyllidebol fanylach. Cred hefyd y dylai'r broses gyllidebol ystyried cynlluniau strategol amlflwyddyn a rhagolygon ariannol hirdymor.

Un o'r prif feysydd a oedd yn achosi pryder oedd yr angen i sicrhau bod cyllidebau'n gysylltiedig â benthyca - cred y Pwyllgor y dylai'r Cynulliad gymeradwyo'n effeithiol, nid yn unig y cynigion ar gyfer gwariant cyfalaf, ond sut y cânt eu hariannu hefyd.

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, "Os caiff Bil Cymru ei basio, bydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am godi rhan o'i chyllideb ei hun drwy ddatganoli rhai pwerau trethu. Gall hefyd fenthyca arian am y tro cyntaf.

"Credwn ei bod yn hanfodol bod proses gadarn a manwl ar waith i graffu ar gynlluniau gwario Llywodraeth Cymru.

"Hyd yma, dim ond cymeradwyo'r cyfanswm y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wario bob blwyddyn y mae'r Cynulliad wedi gallu ei wneud, ac ar wahân i faint a ddyrennir i bob portffolio gweinidogol, ychydig iawn o fanylion a gawn.

"Wrth i Gymru aeddfedu fel democratiaeth, mae'n rhaid iddi allu mantoli'r cyfrifon a chynllunio ar gyfer y dyfodol, a dyna pam y bydd rhan nesaf ein hymchwiliad i arfer o ran y gyllideb yn edrych yn fanwl ar sut y bydd proses gyllidebol ddiwygiedig yn gweithio.

Bydd y Pwyllgor yn trafod manylion pellach am sut y bydd y gweithdrefnau cyllidebol yn newid yng Nghymru yn ystod tymor yr hydref.

Adroddiad: Ymchwiliad i Arferion Gorau o ran y Gyllideb