29 Gorffennaf 2011
Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn archwilio i iechyd y geg ymhlith plant
Bydd ymchwiliad newydd gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad Cenedlaethol yn archwilio i iechyd y geg ymhlith plant Cymru.
Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd gwaith Llywodraeth Cymru i wella iechyd y geg ymhlith plant, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig lle mae buddsoddiad ychwanegol wedi cael ei wneud.
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod iechyd y geg ymhlith plant Cymru’n waeth nag mewn llawer o ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig, a bod cyfraddau pydredd llawer yn uwch.
Daeth yr arolwg diweddaraf i’r casgliad fod mwy na hanner o blant pum mlwydd oed yng Nghymru yn dioddef o bydredd dannedd, a bod y broblem yn waeth mewn mannau difreintiedig.
Roedd rhaglen ‘Cynllun Gwen’ Llywodraeth Cymru, a ddechreuwyd yn 2009, yn cynnwys cynllun brwsio dannedd o dan oruchwyliaeth ar gyfer plant o 3 i 5 oed, a rhaglen hyrwyddol i blant o 6 i 11 oed.
Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “O ystyried lefel y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn gwella iechyd y geg ymhlith ein plant, teimlwn ei fod yn amser i ni graffu ar ba mor effeithiol mae ei hymdrechion i wella safonau wedi bod.”
“Felly, byddwn yn asesu a yw’r buddsoddiad ychwanegol wedi arwain at well safonau, yn enwedig ymhlith y plant hynny sy’n byw yn yr ardaloedd mwy difreintiedig yng Nghymru.”
“Byddwn hefyd yn gofyn beth, os unrhyw beth, y gallwn ei wneud i sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael y gwasanaeth gorau posibl, a hynny’n gyson ledled y wlad.”
“Byddwn yn gwerthfawrogi clywed safbwyntiau a barn unrhyw unigolion a sefydliadau sydd a diddordeb yn yr ymchwiliad hwn.”
Gall unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu at yr ymchwiliad hwn anfon eu cyfraniadau drwy e-bost at CYPCommittee@cymru.gov.uk, neu ysgrifennu at —
Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Plant a Phobl Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.