Un o Bwyllgorau’r Cynulliad yn croesawu cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Cronfeydd Strwythurol yr UE

Cyhoeddwyd 16/02/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o Bwyllgorau’r Cynulliad yn croesawu cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Cronfeydd Strwythurol yr UE

16 Chwefror 2012

Mae adroddiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu’n fras cynigion deddfwriaethol drafft y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, yn amodol ar rai elfennau y mae angen rhagor o eglurder yn eu cylch.

Daeth ymchwiliad a gynhaliwyd gan Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad i’r casgliad bod y cynigion hyn yn darparu fframwaith positif ar gyfer buddsoddi economaidd yng Nghymru yn y cyfnod rhwng 2014 a 2020.

Mae’r Pwyllgor yn cefnogi’r pwyslais newydd ar berfformiad a chanlyniadau, crynhoi themâu mewn perthynas â nifer cyfyngedig o flaenoriaethau, symleiddio’r rheolau ar gyfer cymhwysedd, integreiddio gweithgareddau ar draws ffynonellau cyllido gwahanol, cryfhau partneriaethau a’r potensial sy’n bodoli o ran datblygiadau lleol sy’n cael eu harwain gan y gymuned.

Ar hyn o bryd, mae Cymru’n cael oddeutu £1.9 biliwn ar ffurf Cronfeydd Strwythurol ar gyfer adfywio cymunedau difreintiedig, ond bydd y rhaglenni hyn yn dod i ben yn 2013, yn ôl yr amserlen bresennol.

Yn ôl y dystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor, yng nghyd-destun y rownd nesaf o raglennu ar gyfer Cronfeydd Strwythurol yr UE, bydd gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cadw eu statws fel Rhanbarthau Llai Datblygedig, a bydd dwyrain Cymru’n gymwys i gael cymorth fel Rhanbarth Mwy Ffyniannus.

Dywedodd y sector addysg uwch yng Nghymru wrth y Pwyllgor bod yn rhaid defnyddio’r rownd nesaf o Gronfeydd Strwythurol i gefnogi trawsnewidiad economaidd a chymdeithasol yn y tymor hir yng Nghymru, ac i greu economi sydd â gwerth uchel ac sy’n seiliedig ar wybodaeth.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: “Mae’r Pwyllgor yn llongyfarch y Comisiwn Ewropeaidd ar ei gynigion drafft, ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y cyfan sydd o fewn ei gallu i gefnogi’r cynigion deddfwriaethol hyn a’u hamddiffyn rhag cael eu diwygio’n sylweddol yn ystod y trafodaethau sy’n mynd rhagddo ar lefel yr UE.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth arloesi i Gymru, mewn partneriaeth â’r sectorau addysg uwch a busnes, a fyddai’n blaenoriaethu buddsoddi mewn sgiliau, ymchwil a datblygu technolegol.

“Yn ogystal, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu—gyda’i phartneriaid—pennod benodol i Gymru yng Nghontract Partneriaeth arfaethedig y DU gyda’r Comisiwn Ewropeaidd, a fyddai’n amlinellu anghenion a blaenoriaethau penodol Cymru.

“Yn hanfodol, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru geisio cynyddu potensial a hyblygrwydd Cronfeydd Strwythurol yr UE yn y dyfodol, fel y gall prosiectau seilwaith yng Nghymru elwa arnynt.”