Un o bwyllgorau'r Cynulliad yn cynnal cyfarfod yn y Sioe Fawr
25 Gorffennaf 2012
Bydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfarfod ffurfiol yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ddydd Mercher 25 Gorffennaf.
Bydd Aelodau'r Pwyllgor yn holi Alun Davies AC, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, ynglyn â materion cyffredinol yn ymwneud â'i bortffolio a rhaglen Glastir.
Mae'r Pwyllgor ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i Glastir, sef cynllun amaeth-amgylcheddol Llywodraeth Cymru.
Diben yr ymchwiliad hwn yw:
asesu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth ddarparu'r cynllun;
casglu safbwyntiau rhanddeiliaid am y cynllun a sut y gellid ei wella;
a chyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru am y modd y caiff y cynllun ei ddarparu.
“Mae'r Sioe Fawr yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr amaethyddiaeth Cymru,” dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Cadeirydd Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
“Rydym yn falch iawn ein bod yn cynnal cyfarfod ffurfiol o Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd ac rydym yn edrych ymlaen at holi'r Dirprwy Weinidog ar amryw o faterion, yn cynnwys rhaglen Glastir.”
“Bydd ymweld â maes y sioe yn Llanelwedd hefyd yn gyfle i aelodau'r Pwyllgor gyfarfod ag ystod eang o randdeiliaid o bob rhan o Gymru.”