Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cynnal trafodaethau ar ddydd Gŵyl Dewi am ddyfodol Cymru yn yr UE

Cyhoeddwyd 18/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cynnal trafodaethau ar ddydd Gwyl Dewi am ddyfodol Cymru yn yr UE

18 Chwefror 2010

Bydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol yn trafod dyfodol cyllid yr UE â’r pedwar Aelod o Senedd Ewrop o Gymru ac un o wleidyddion pennaf Brwsel ar Ddydd Gwyl Dewi (1 Mawrth).

Bydd y Pwyllgor, dan arweiniad Rhodri Morgan AC, yn cyfarfod â’r Athro Danuta Hübner, Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Rhanbarthol Senedd Ewrop, fel rhan o’i daith wib a fydd hefyd yn cynnwys trafodaethau â José Manuel Barroso, Arlywydd Cabinet y Comisiwn Ewropeaidd a phob un o’r pedwar Aelod Seneddol Ewrop o Gymru.

Ar hyn o bryd, mae Cymru’n elwa o gael dau biliwn o bunnoedd mewn arian Ewropeaidd i adfywio ardaloedd sydd ar ei hôl hi o ran perfformiad economaidd, ond mae’r arian hwn i fod i ddod i ben yn 2013, ac mae ansicrwydd ynglyn â’i ddyfodol.

Daw’r cyfarfodydd ar adeg dyngedfennol i Gymru, wrth i’r UE benderfynu ar ei blaenoriaethau ar gyfer twf a chreu swyddi dros y deng mlynedd nesaf, o dan ei strategaeth EU2020.

Dywedodd Rhodri Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r ymweliad â Brwsel ar Ddydd Gwyl Dewi’n nodi cyfres o bethau y mae’r Pwyllgor yn eu gwneud am y tro cyntaf.

“Dyma’r tro cyntaf i ni gyfarfod â phob un o’r pedwar Aelod Seneddol Ewrop o Gymru, ac mae’n bwysig ein bod yn gweithio â’n cymheiriaid Ewropeaidd i ddadlau’n gryf dros gael blaenoriaeth ariannol i Gymru ac i dynnu sylw at unrhyw bryderon sydd gan bobl yng Nghymru.

“Rwyf yn arbennig o falch o gael cyfle i siarad yn uniongyrchol â Danuta Hübner, Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Rhanbarthol Senedd Ewrop, ar adeg mor bwysig, wrth i Ewrop drafod y ffordd ymlaen ar gyfer y degawd nesaf. Rydym eisoes yn adnabod yr Athro Hübner yn dda ers ei chyfnod fel y Comisiynydd Ewropeaidd dros Bolisi Rhanbarthol, ac mae hi’n gyfarwydd iawn â Chymru.

“Mae Pwyllgor y Rhanbarthau, sy’n cynrychioli awdurdodau rhanbarthol a lleol yn Ewrop, wedi bod yn gymorth mawr wrth gynnal y cyfarfod a gwneud y trefniadau technegol, ac rydym yn edrych ymlaen at drafod mandad a phwerau newydd y sefydliad o dan Gytuniad Lisbon.”

Ar hyn o bryd mae’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol yn cynnal ymchwiliad i ddyfodol polisi cydlyniant yr UE a’i oblygiadau i Gymru. Rhybuddiodd adroddiad interim, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2009, yn erbyn rhoi arian y dyfodol i aelod-wladwriaeth y DU, a fyddai’n golygu y byddai swyddogion yn Whitehall yn penderfynu faint o arian y byddai Cymru yn ei dderbyn.

Ar y pryd, ysgrifennodd y Pwyllgor at yr Arlywydd Barroso yn galw am gydnabyddiaeth i rôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel deddfwrfa ranbarthol, ac i gynnal polisi cydlyniant sy’n cynnwys holl wledydd yr UE.

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol ar gael yma

Gellir darllen a lawrlwytho’r adroddiad interim ar bolisi cydlyniant yma