Un o bwyllgorau'r Cynulliad yn dweud bod angen eglurder o ran amcanion a disgwyliadau ardaloedd menter Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 17/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau'r Cynulliad yn dweud bod angen eglurder o ran amcanion a disgwyliadau ardaloedd menter Llywodraeth Cymru

17 Rhagfyr 2013

Yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, nid oes digon o wybodaeth am amcanion a chanlyniadau disgwyliedig ardaloedd menter Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y Llywodraeth ei hun, mae'r ardaloedd menter sydd wedi'u lleoli o amgylch Cymru yn "ardaloedd daearyddol sy'n cefnogi seilwaith a chymhellion o'r radd flaenaf i fusnesau".

Mae'r ardaloedd hyn yn canolbwyntio ar wahanol sectorau economaidd sy'n cynnwys gweithgynhyrchu, gwasanaethau ariannol, cynhyrchu uwch o ran ynni, ac awyrofod. Caiff pob un ohonynt fuddion sydd, ymysg pethau eraill, yn gwella seilwaith, yn darparu cymorth o ran Ardrethi Busnes, band eang y genhedlaeth nesaf a Lwfansau Cyfalaf Uwch.

Cafodd y Pwyllgor Cyllid wybod bod amcanion strategol ar gael ar gyfer y saith ardal fenter, ond nid beth ydynt. Eu bod wedi gwneud cais am fuddsoddiad, ond nid beth yn union y maent wedi gwneud cais amdanynt. Ac y disgwylir iddynt sicrhau canlyniadau, ond nid sut y caiff y llwyddiant hwnnw ei fesur.

Canfu'r pwyllgor bod yr ardaloedd yn gwneud gwahaniaeth mewn rhai meysydd a bod cystadleuaeth frwd i gael lle ar fyrddau cyfarwyddwyr yr ardaloedd, er nad oes ganddynt gyllideb ac ni roddir tâl i'r aelodau.

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, "Mae ychydig o hud a lledrith o hyd am yr ardaloedd menter, ers cyhoeddiad y Prif Weinidog amdanynt dros ddwy flynedd yn ôl.

"Cafodd y Pwyllgor gryn anhawster yn canfod gwybodaeth gadarn am eu hamcanion, eu cyllid a'r ffordd y caiff eu perfformiad ei fesur.

"Credwn y dylai Llywodraeth Cymru fod yn llawer mwy tryloyw am yr ardaloedd menter hyn er mwyn gallu craffu'n iawn ar eu diben a'u perfformiad."

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn gwneud pimp o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys y canlynol:

  • Cawsom ein sicrhau bod y cynlluniau strategol yn bod, ond gan nad ydynt wedi'u cyhoeddi, mae'n amhosibl inni graffu arnynt. Er ei bod yn bosibl bod rhesymau masnachol dilys dros gadw rhai manylion yn breifat, rydym yn argymell bod y Gweinidog yn ystyried rhyddhau cymaint â phosibl o wybodaeth i'r cyhoedd.

  • Os mai'r bwriad yw i ardaloedd menter fod yn gyfrifol am eu cyllidebau eu hunain yn y yfodol, rydym yn argymell bod trefniadau atebolrwydd cadarn yn cael eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau gwerth am arian; a,

  • Bod y Gweinidog yn sicrhau bod yr ardaloedd menter yn ystyried sut orau y gallant sicrhau bod pob busnes yn cael gwybodaeth lawn am y cynllun Ryddhad Ardrethi Busnes.

Adroddiad: Ardaloedd Menter

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid ar gael yma.

Mae rhagor o wybodaeth am ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i ardaloedd menter ar gael yma.