Un o Bwyllgorau’r Cynulliad yn galw am fwy o weithredu ym maes tai fforddiadwy

Cyhoeddwyd 23/04/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o Bwyllgorau’r Cynulliad yn galw am fwy o weithredu ym maes tai fforddiadwy

23 Ebrill 2012

Mae adroddiad newydd gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am fwy o weithredu gan Lywodraeth Cymru ar ddarparu tai fforddiadwy.

Daeth ymchwiliad gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i’r casgliad bod angen cyffredinol am ddull gweithredu ‘system gyfan’ ym maes tai yng Nghymru.

Dangosodd tystiolaeth a gyflwynwyd gan grwpiau tai, cymdeithasau tenantiaid ac adeiladwyr fod angen arweiniad gan Lywodraeth Cymru. Mewn ymateb, cyfaddefodd y Llywodraeth fod y byd wedi newid ers cyhoeddi ei strategaeth dai yn 2010.

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid ailedrych ar y strategaeth i sicrhau ei bod yn addas i’r diben, gan alw hefyd am sefydlu targedau cyffredinol ar gyfer nifer y tai sy’n cael eu hadeiladu, ac am fwy o ymdrech i ddatblygu tir sydd â chaniatâd cynllunio eisoes ar gyfer tai fforddiadwy.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: “Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu mynd i’r afael â rhai o’n pryderon ni yn y Bil Tai a fydd yn cael ei gyflwyno yn ystod y Cynulliad hwn.

“Ein gobaith yw y bydd canfyddiadau’r ymchwiliad hwn, a’r argymhellion rydym wedi eu gwneud, yn cyfrannu at y gwaith o lunio’r Bil hwnnw.

“Mae’r hyn sy’n ein rhwystro rhag darparu tai fforddiadwy yng Nghymru yn gymhleth ac yn mynnu cyfraniad a chydweithrediad llywodraethau yng Nghymru ac yn San Steffan, awdurdodau lleol, asiantaethau a chwmnïau adeiladu, ymysg cyrff eraill.

“Ond gydag arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru yn benodol, rydym ni’n credu bod modd goresgyn y rhwystrau hyn.”