Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn galw am ragor o eglurder a hyblygrwydd ym maes cyllid iechyd

Cyhoeddwyd 28/02/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn galw am ragor o eglurder a hyblygrwydd ym maes cyllid iechyd

28 Chwefror 2013

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am ragor o eglurder a thryloywder yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllidebau i sefydliadau iechyd.

Yn ei ystyriaeth o gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, mae’r Pwyllgor Cyllid yn dod i’r casgliad y gall caniatáu rhagor o hyblygrwydd i fyrddau iechyd lleol yn eu cyllid drwy drefniadau ‘broceriaeth’, neu fenthyca o gyllideb y flwyddyn olynol ar gyfer cyllideb y flwyddyn gyfredol, gymhlethu eu gwir sefyllfa ariannol.

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid, yn rhoi esboniad clir o’r modd y mae’r trefniadau broceriaeth yn gweithredu’n ymarferol yn ogystal â dadansoddiad clir o ffynhonnell yr £82 miliwn ychwanegol sy’n cael ei ddyrannu i wasanaethau iechyd.

Mae hefyd am wybod faint y bydd pob bwrdd iechyd yn ei dderbyn a faint y bydd eu terfynau’n cael eu haddasu o ganlyniad i’r dyraniad ychwanegol.

Nododd y Pwyllgor hefyd fod penderfyniad gan Lywodraeth Cymru - i ddwyn cyfalaf ymlaen i flynyddoedd ariannol eraill - yn ymdrin â phryder cynharach y Pwyllgor yn ymwneud â lefel isel y cronfeydd cyfalaf wrth gefn ar gyfer 2013-14.

Ond rhybuddiodd y dylid cymryd gofal wrth roi penderfyniadau o’r fath ar waith, gan y gellid colli cyfle i ysgogi twf a swyddi yn ystod yr hinsawdd ariannol bresennol.

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, “Mae’r Pwyllgor yn fodlon bod Llywodraeth Cymru wedi mynd i’r afael â rhai o’r pryderon a fynegwyd yn y gorffennnol wrth graffu ar y gyllideb.”

“Ond mae cyllid iechyd yn fater sydd o dan y chwyddwydr ar hyn o bryd, ac mae angen rhagor o dryloywder os ydym am wir ddeall sefyllfa ariannol ein gwasanaethau iechyd.

“Mae trefniadau broceriaeth wedi rhoi rhagor o hyblygrwydd i fyrddau iechyd, ond mae angen i ni ddeall y trefniadau hyn, y ffyrdd y mae cyllidebau’n cael eu haddasu i fantoli’r gyllideb ac o ba feysydd y mae’r arian wrth gefn yn dod.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud wyth o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Bod y Gweinidog yn rhoi esboniad clir o’r modd y mae’r trefniadau broceriaeth yn gweithredu’n ymarferol, yn rhoi dadansoddiad clir o ffynhonnell yr £82 miliwn ychwanegol sy’n cael ei ddyrannu, yn esbonio sefyllfa bresennol y gronfa wrth gefn yn y portffolio iechyd ac yn rhoi manylion yn dangos faint y bydd pob bwrdd iechyd yn ei dderbyn, neu faint y bydd eu terfynau’n cael eu haddasu, o ganlyniad i’r arian ychwanegol hwn;

  • Bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ar fyrder â’i hadolygiad o’r modd y caiff y GIG ei gyllido, ac y dylai unrhyw system newydd o gyllido’r GIG arwain at system dryloyw, gan sicrhau bod modd dilyn unrhyw newidiadau mewn adnoddau, a chan roi’r hyblygrwydd angenrheidiol i’r Byrddau Iechyd Lleol, ond gan hefyd sicrhau bod y Byrddau’n atebol am gadw at eu rhwymedigaethau ariannol; ac

  • Rydym yn nodi bod y penderfyniad i ddwyn cyfalaf ymlaen i flynyddoedd ariannol eraill yn ymdrin â phryder cynharach y Pwyllgor yn ymwneud â lefel isel y cronfeydd cyfalaf wrth gefn ar gyfer 2013-14, ac mae’n bosibl y gall ddiogelu prosiectau yn y dyfodol. Fodd bynnag, rydym yn argymell y dylid cymryd gofal wrth roi penderfyniadau o’r fath ar waith, gan y gellid colli cyfle i ysgogi twf a swyddi yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid