Un o bwyllgorau’r Senedd yn gofyn am sicrwydd gan brifysgolion Cymru o ran diogelu myfyrwyr rhag effaith y Coronafeirws

Cyhoeddwyd 30/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/10/2020

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi ysgrifennu at yr is-gangellorion ym mhrifysgolion Cymru i ofyn am sicrwydd ynghylch eu mesurau i ddiogelu myfyrwyr rhag effaith y Coronafeirws.

Mae'r llythyr yn dilyn datblygiadau diweddar yn Lloegr a'r Alban lle rhoddodd rhai prifysgolion gyfyngiadau symud ar waith ar eu campysau a chyfyngu myfyrwyr i'w neuaddau preswyl wedi i ardaloedd problemus o ran Covid-19 ddod i'r amlwg yn lleol.

Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch a fyddai myfyrwyr yn cael mynd adref ar gyfer y Nadolig.

Yr wythnos hon ataliodd Prifysgol Aberystwyth addysgu personol wedi i nifer o fyfyrwyr brofi’n bositif am y Coronafeirws.

Mae'r llythyr ar gael yma

Dywedodd Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor

“Dim ond ychydig ddyddiau sydd ers i lawer ohonom ffarwelio â’n plant wrth iddynt fynd i’r hyn yr oeddent yn gobeithio a fyddai’n un o gyfnodau mwyaf cyffrous eu bywydau.

“Ond rydym eisoes wedi clywed rhai straeon trist iawn yn dod i’r amlwg o bob cwr o’r DU am yr effaith y mae’r pandemig hwn yn ei chael ar fyfyrwyr a staff wrth iddynt ddechrau’r tymor newydd.

“Mae hwn yn amser pryderus iawn. Fel pwyllgor, rydym yn teimlo nad yw ond yn iawn ymchwilio'n drylwyr i’r camau sy'n cael eu cymryd gan sefydliadau yma yng Nghymru i ddiogelu ein myfyrwyr a'n staff addysg uwch, ac i sicrhau bod popeth y gellir ei wneud i leihau effaith y pandemig yn cael ei roi ar waith yn gyflym.”

Mae'r Pwyllgor wedi gofyn i sefydliadau nodi:

  • y mesurau COVID-19 y maent wedi'u cymryd mewn perthynas â'u llety eu hunain, a sut y maent wedi gweithio gyda darparwyr Llety Pwrpasol i Fyfyrwyr (PBSA) a landlordiaid preifat (gan gyfeirio at y trefniadau ar gyfer y tymor ac yn ystod y gwyliau);

  • sut y maent yn bwriadu cefnogi – neu wedi bod yn cefnogi – yr holl fyfyrwyr (ar y campws ac oddi ar y campws) sydd wedi gorfod hunanynysu, gan gynnwys sut y byddent yn cefnogi niferoedd mawr sy’n hunanynysu ar yr un pryd mewn modd urddasol (h.y. darparu bwyd a diod sy'n bodloni gofynion dietegol, meddyginiaeth, cymorth iechyd meddwl a hanfodion eraill);

  • y ddarpariaeth sydd ganddynt ar waith ar gyfer nodi a mynd i'r afael â chaledi myfyrwyr;

  • eu dull o weithio gyda myfyrwyr ar gamau a gweithredoedd COVID-19, gan gynnwys hunanynysu;

  • sut y maent yn gweithio ac yn integreiddio â’r mecanwaith iechyd y cyhoedd ac argyfyngau sifil yn eu hawdurdodau lleol a'u fforymau gwydnwch lleol (gan gadarnhau hefyd a oes ganddyn nhw gyfleusterau ar y campws i brofi’r myfyrwyr am y feirws);

  • sut y maent wedi ymgysylltu – ac yn ymgysylltu – â'r boblogaeth leol, yn enwedig lle mae ganddynt gampysau mewn awdurdodau lleol gwledig; ac,

  • unrhyw argymhellion defnyddiol y credent y gallai'r Pwyllgor eu gwneud i Lywodraeth Cymru i wella'r gefnogaeth i brifysgolion, staff a myfyrwyr.

Mae’r llythyr yn rhan o waith craffu parhaus y Pwyllgor ar y camau sy'n cael eu cymryd i reoli effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys myfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch.