Un o gyn-fyfyrwyr Ysgol Gyfun y Coed-Duon yn annog plant i ystyried y llwybyr Prentisiaeth

Cyhoeddwyd 03/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/03/2015

Aeth Lori Nicholas, prentis 19 mlwydd oed yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ôl i'w gwreiddiau yr wythnos hon er mwyn annog rhai o fyfyrwyr Ysgol Gyfun y Coed-duon i ddilyn ei hesiampl.

Mae Lori yn rhan o dîm o 'Lysgenhadon Prentisiaeth' sy'n gweithio gydag Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru; maent yn teithio o amgylch y wlad er mwyn annog pobl ifanc i ddilyn y llwybr prentisiaeth ac i fanteisio ar un o'r cyfleoedd di-ri sydd ar gael ledled Cymru.

Roedd Lori, sydd o Fargoed, yn ansicr ynghylch ei dyfodol ar ôl cwblhau ei harholiadau TGAU. Mae hi bellach wedi cwblhau cymhwyster NVQ mewn Busnes a Gweinyddiaeth yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Fel rhan o'i phrentisiaeth, mae hi'n gweithio yn adran gyfathrebu'r Cynulliad Cenedlaethol.

Ymwelodd Lori ag Ysgol Gyfun y Coed-duon yr wythnos hon i siarad â disgyblion am sut y mae ei phenderfyniad i ddewis y llwybr galwedigaethol wedi ei helpu i ennill y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen arni i ddilyn gyrfa ym maes cyfathrebu a marchnata.

Eglurodd wrth y disgyblion ei bod hi wedi penderfynu, ar ôl mynychu'r coleg am rai misoedd, nad oedd y llwybr Safon Uwch yn addas iddi. Eglurodd ei bod wedi gofyn am gyngor gan ei chynghorydd gyrfa ynghylch dilyn y llwybr galwedigaethol.

Dywedodd: "Cyn i mi adael yr ysgol, roeddwn yn ansicr o'r opsiynau oedd ar gael a'r hyn roeddwn am ei wneud fel gyrfa, er fy mod yn gwybod bod gen i sgiliau Saesneg da a'm bod yn mwynhau cyfathrebu â phobl. Roedd yn syndod llwyr i mi fod yna brentisiaethau ar gael ym maes busnes a'r cyfryngau. Fy nghanfyddiad i oedd eu bod wedi'u cyfyngu i alwedigaethau ymarferol, fel peirianneg.

"Ym mis Chwefror 2013, roeddwn yn falch fy mod i wedi sicrhau swydd fel prentis yn y Cynulliad Cenedlaethol, er fy mod yn pryderu braidd am y ffaith nad oeddwn yn gwybod llawer o ddim am wleidyddiaeth. Erbyn hyn, mae gen i wir ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yn y Senedd. Mae'n syndod faint y gallwch ei ddysgu dim ond o fod yn rhan o'r amgylchedd hwnnw.

"Ers dechrau fy mhrentisiaeth, rwy'n teimlo fy mod i wedi dysgu cymaint, ac wedi meithrin cymaint o sgiliau ar hyd y ffordd. Mae fy rôl yn cynnwys gwaith sy'n ymwneud â'r cyfryngau cymdeithasol, drafftio datganiadau i'r wasg, diweddaru'r wefan a goruchwylio digwyddiadau. Felly, mae'r gwaith hwn yn amrywiol iawn, ac rwy'n gweithio ar rywbeth gwahanol bob dydd.

"Gyda chyflogwyr yn gofyn fwyfwy i ymgeiswyr ddangos bod ganddynt brofiad ymarferol, credaf fod prentisiaethau yn hynod o werthfawr gan eu bod yn rhoi'r cyfle ichi ddysgu'r sgiliau penodol sydd eu hangen arnoch i wneud eich swydd. Mae dysgu mewn amgylchedd gwaith hefyd yn rhoi cyfle ichi wella'r sgiliau beunyddiol y mae pobl ifanc yn eu cymryd yn ganiataol cyn mynd i mewn i'r gweithle, fel ateb y ffôn ac ysgrifennu negeseuon e-bost."

Mae ystod enfawr o fframweithiau prentisiaeth ar gael i bobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys cyfleoedd ym meysydd cigyddiaeth, pobi, peirianneg, gwasanaethau trydan, lletygarwch ac Adnoddau Dynol.

Ychwanegodd Lori: "Mwynheais y profiad o gwrdd â'r myfyrwyr yn Ysgol Gyfun y Coed-duon. 

"Bydd yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau mawr am eu dyfodol yn ystod y flwyddyn nesaf. Felly, rwyf yn gobeithio y bydd fy sgwrs wedi'u hysbrydoli i ymchwilio i'r prentisiaethau amrywiol sydd ar gael iddynt ac i ystyried dilyn y llwybr galwedigaethol."

Gyda Lori yn y digwyddiad oedd Susan Marks, ei darparwr hyfforddiant, Lydia Harris o Goleg Caerdydd a'r Fro, a Rhodri Wyn Jones, Kelly Harris a Selina Moyo o'r Cynulliad Cenedlaethol, ei chyflogwr.

Bydd y llysgenhadon prentisiaeth yn ymweld ag ysgolion yng Nghaerdydd, Merthyr, Trecelyn, Treorci, yr Wyddgrug, Caerfyrddin, Abertawe a'r Trallwng yn ystod y mis nesaf.

Ariennir y rhaglen brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru, gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses o ddod yn brentis, ewch i http://www.careerswales.com/cy/ neu ffoniwch 0800 0284844. Gallwch ddod o hyd i ni hefyd ar Facebook: www.facebook.com/apprenticeshipscymru; ac ar Twitter: @apprenticewales