Unigrwydd ac unigedd yw un o'r problemau mwyaf arwyddocaol sy'n wynebu'r genhedlaeth hŷn yng Nghymru, felly mae bwriad Llywodraeth Cymru i beidio â chyhoeddi ei strategaeth i fynd i'r afael â'r mater tan 2019 yn destun siom meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Clywodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon fod tua hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn teimlo'n unig bob amser neu'n aml, a bod diffyg rhyngweithio cymdeithasol mor niweidiol ag ysmygu 15 o sigaréts y dydd.
Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu y gallai'r broblem fod yn llawer gwaeth na'r hyn a ragdybir ar hyn o bryd, oherwydd fod gan bobl ormod o gywilydd cyfaddef eu bod yn unig.
Roedd diffyg cludiant cyhoeddus, yn enwedig gyda'r nos, yn cael ei hystyried yn ffactor arwyddocaol a oedd yn cyfrannu at unigrwydd ac unigedd. Clywodd y Pwyllgor fod rhai pentrefi wedi eu hynysu'n llwyr oherwydd nad oes ganddynt wasanaeth bws. Soniodd tystion a ddaeth gerbron y Pwyllgor hefyd am yr eironi o gael tocyn bws am ddim pan nad oes gwasanaeth bws ar gael i lawer o bobl.
Yn ystod trafodaethau gyda defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau, dywedwyd wrth yr Aelodau am fanteision cyswllt rhwng cenedlaethau, lle mae pobl ifanc a phobl hŷn yn cyfnewid sgiliau a phrofiadau.
Amlygwyd nifer o enghreifftiau o waith rhagorol gan fudiadau gwirfoddol ledled y wlad, ond roedd yn destun pryder sylweddol mai yn y tymor byr y darperir cyllid, a bod hyn wedi arwain at gau rhai cynlluniau.
Ond canfu'r Pwyllgor nad oedd Llywodraeth Cymru am gyhoeddi strategaeth, a fyddai'n gosod y blaenoriaethau a'r cyfeiriad ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem, tan 2019.
"Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi ei strategaeth i fynd i'r afael â'r materion hyn tan 2019. Nid yw hyn yn ddigon da."
- Dr. Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
"Mae gan Gymru ganran fwy o bobl hŷn yn ei phoblogaeth nag unrhyw ran arall o'r DU ac yn aml mae hyn yn golygu bod pobl yn fwy dibynnol ar wasanaethau cymdeithasol a bod ganddynt anghenion mwy cymhleth," meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
"Mae effaith unigrwydd ac unigedd yn ddwys, a gall fod â chanlyniadau meddyliol a chorfforol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi ei strategaeth i fynd i'r afael â'r materion hyn tan 2019. Nid yw hyn yn ddigon da ac rydym yn galw ar weinidogion i gwtogi'r amserlen honno.
"Mae'r dystiolaeth a glywsom am fanteision cyswllt rhwng cenedlaethau'n galonogol a hoffem weld rhagor o ymchwil yn y maes hwn i werthuso'r manteision yn drylwyr.
"Rydym hefyd wedi gweld a chlywed am enghreifftiau rhagorol ledled y wlad o grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn dod at ei gilydd i gefnogi pobl.
"Rydym am weld cyllid mwy sefydlog er mwyn i unigolion a sefydliadau sy'n cyflawni gwaith mor ardderchog ar lawr gwlad fod yn hyderus y gallant ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn yn y tymor hir."
Mae'r Pwyllgor yn gwneud chwe argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:
- bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r amserlen ar gyfer datblygu ei strategaeth i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd, gyda’r bwriad o’i chyhoeddi cyn 2019;
- bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol a llywodraeth leol i sicrhau’r sefydlogrwydd cyllid sydd ei angen gan sefydliadau’r sector gwirfoddol i barhau i ddarparu gwasanaethau cymorth hanfodol i bobl sy’n dioddef unigrwydd ac unigedd trwy gyflwyno rhaglenni cyllido tair blynedd; a
- bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwerthusiad i asesu effaith cyswllt rhwng cenedlaethau ar bobl sy’n profi unigrwydd ac unigedd.
Darllen yr adroddiad llawn:
Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd (PDF, 897 KB)