Walk on Wales: Taith gerdded elusennol gwerth £1 miliwn yn cychwyn o’r Senedd

Cyhoeddwyd 23/08/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Walk on Wales: Taith gerdded elusennol gwerth £1 miliwn yn cychwyn o’r Senedd

23 Awst 2013

Bydd taith gerdded 870 milltir o gwmpas Llwybr Arfordir Cymru yn cychwyn o risiau’r Senedd a’r Dydd Sul, 25 Awst.

Mae’r daith wedi cael ei threfnu gan Walk on Wales, elusen a sefydlwyd gan ddau o gyn-filwyr y Falklands, y Capten Jan Koops a’r Is-ringyll Dai Graham.

Nod y daith yw codi £1 miliwn i elusennau Combat Stress ac Apêl Affganistan y Gwarchodlu Cymreig.

Bydd un ar ddeg o dimau yn cerdded ar hyd y llwybr arfordirol gan gario baton arian wedi’i gomisiynu’n arbennig ac arno enwau 50 o aelodau o’r Gwarchodlu Cymreig sydd wedi marw wrth wasanaethu’u gwlad ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd David Melding AC, y Dirprwy Lywydd, a fydd yn cerdded yr ychydig filltiroedd cyntaf gyda thîm Walk on Wales: “Mae’n anrhydedd fawr fod y daith hon o amgylch Cymru yn cychwyn o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod yr aberth a wnaed gan y rheiny sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a’n bod yn darparu’r gofal a’r cymorth gorau i’r rheiny sy’n dychwelyd o faes y gad, ynghyd â’u teuluoedd.

“Mae Walk on Wales yn gwneud gwaith gwych ac ar ran pawb yma yn y Cynulliad, hoffwn ddymuno’n dda i bawb sy’n cymryd rhan cyn iddynt gychwyn ar eu taith i godi arian.”

Cyn y bydd y daith yn cychwyn, bydd band y Gwarchodlu Cymreig a Chôr Meibion Treorci yn perfformio o flaen y Senedd, o 1pm ymlaen ar 25 Awst.

Bydd cyn-bennaeth y staff amddiffyn, y Cadlywydd yr Arglwydd Guthrie o Craigiebank hefyd yn bresennol.

Mae Jan Koops, cyd-sefydlydd Walk on Wales, yn un o grwp bach o bobl a fydd yn cerdded pob un o’r 870 milltir.

Dywedodd y cyn swyddog gyda’r Gwarchodlu Cymreig: “Mae hon yn daith goffa hynod o bersonol i mi. Mae’n bererindod yr wyf wedi eisiau ei gwneud am flynyddoedd lawer.

“Bu farw gormod o’m cyd-filwyr yn y Falklands ac mae llawer iawn mwy yn dal i ddioddef effaith y gwrthdaro hwnnw ac anghydfodau ers hynny. Rwy’n gobeithio y bydd y daith gerdded hon yn caniatáu i ni gydnabod y rheiny a fu farw a helpu’r rheiny sydd mewn angen.

“Mae dwysedd yr ymgyrchoedd yn Affganistan yn golygu bod yn rhaid i ni fod yn barod i wynebu llawer iawn rhagor o achosion o anhwylder straen wedi trawma a pobl sydd angen cymorth yn y dyfodol.

“Ein bwriad yw sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu, nid yn unig i aelodau o’r Gwarchodlu Cymreig, ond i bob milwr yng Nghymru i helpu gyda rhoi cymorth ymarferol i’n milwyr.”