Welsh language will not succeed in business on ‘good will alone’ – says new report

Cyhoeddwyd 01/02/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

‘Ewyllys da yn unig’ ddim yn ddigon i sicrhau llwyddiant i’r iaith Gymraeg ym myd busnes, yn ôl adroddiad newydd

1 Chwefror 2011

Mae angen dull gweithredu mwy cydlynol er mwyn cynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg gan fusnesau, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Pwyllgor Menter a Dysgu, sy’n bwyllgor trawsbleidiol, yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fanteisio ar agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith Gymraeg er mwyn sicrhau ei bod yn ffynnu yn y gweithle a’i bod yn cael ei defnyddio i wella gwasanaethau i ddefnyddwyr.

Mae’r Pwyllgor yn nodi, er bod amryw o gyrff wedi datblygu mentrau i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, nid oes digon wedi’i wneud i fesur llwyddiant nac i werthuso canlyniadau pendant.

Mae’r Pwyllgor yn nodi hefyd fod llawer o bobl ifanc yn gadael yr ysgol â sgiliau iaith Gymraeg cadarn ond mai prin yw’r cyfle iddynt ddefnyddio’r sgiliau hynny mewn addysg uwch neu yn y byd gwaith, a bod angen gweithio’n well i bontio’r cyfnodau hyn ym mywydau pobl.

Dywed yr adroddiad bod llawer o bolisïau iaith sydd ar waith gan fusnesau yn aml wedi’u llunio gan staff ar sail wirfoddol. Er bod y Pwyllgor yn canmol y dull gweithredu hwn, ni all yr iaith ddibynnu ar ewyllys da yn unig i ffynnu.

Roedd y Pwyllgor yn pryderu o glywed tystiolaeth bod nad oedd rhai sefydliadau yn ymwybodol o’r sgiliau ieithyddol sydd ar gael yn eu gweithleoedd. Rhaid gwneud rhagor i sicrhau bod cyrff y sector preifat a chyhoeddus yn defnyddio ac yn hyrwyddo sgiliau iaith Gymraeg eu staff.

Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rydym wedi cael ein calonogi gan y nifer o enghreifftiau arloesol o sut y gellir annog staff i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y gweithle a chyda’u cleientiaid allanol.

“Ond gwelsom hefyd nad yw dulliau i hybu a datblygu strategaethau i annog pobl i ddefnddio’r iaith yn y sector masnachol wedi’u cydlynu.

“Mae ein hadroddiad yn cynnig nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru i gymryd camau yn eu cylch, naill ai drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg neu Gomisiynydd y Gymraeg.

“Er mwyn i’r iaith Gymraeg ffynnu, rhaid i’r sector preifat a’r sector cyhoeddus roi gwerth ar y Gymraeg fel sgil sy’n gysylltiedig â gwaith.”

Mae’r adroddiad yn cynnig nifer o argymhellion gan gynnwys:

  • bod Llywodraeth Cymru’n comisiynu gwaith ymchwil i’r ffactorau penodol sy’n effeithio ar hyder defnyddwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl i ddefnyddio’r iaith pan fyddant yn cysylltu â sefydliadau’r sector preifat a sector cyhoeddus;

  • bod Llywodraeth Cymru’n comisiynu rhagor o ymchwil ac yn casglu data ar ddefnydd pobl ifanc sy’n mynd i fyd cyflogaeth o’r Gymraeg ynghyd â’u hagweddau at yr iaith er mwyn cyfrannu at ddatblygu polisi;

  • bod Llywodraeth Cymru’n comisiynu ymchwil i’r manteision y mae sefydliadau ariannol wedi’u canfod sy’n deillio o ddarparu gwasanaeth dwyieithog i’w cwsmeriaid, ac yn edrych ar ffyrdd i hyrwyddo’r arfer da hwn ymhlith sefydliadau eraill sy’n cynnig gwasanaeth i gwsmeriaid yn y sector preifat;

  • bod Llywodraeth Cymru’n cydweithredu â busnesau a defnyddwyr i ddatblygu canllawiau ar ddulliau arloesol o hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn y gweithle ac mewn busnes, a gofyn am atborth rheolaidd gan ddefnyddwyr ar eu heffeithiolrwydd.

  • bod Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’i phartneriaid i sicrhau bod llwybr cydlynol tuag at hyfforddiant a chyflogaeth i ddisgyblion ysgol sy’n dymuno defnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle.

DIWEDD