“Wrth i’r boblogaeth heneiddio, mae gofalwyr hefyd yn heneiddio - mae'n teimlo fel ein bod ni'n rhuthro tua’r dibyn”

Cyhoeddwyd 21/11/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/11/2019

​Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar i Lywodraeth Cymru gymryd camau pendant i sicrhau bod gan ofalwyr yr hawliau a'r gefnogaeth a addawyd o dan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn 2014.  

Bob blwyddyn, mae 96% o’r gofal a ddarperir yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl; amcangyfrifir bod y gofal hwn cyfwerth ag £8.1 biliwn y flwyddyn i economi Cymru. Erbyn 2037, bydd dros hanner miliwn o bobl yn darparu rhyw fath o ofal anffurfiol. 

Serch hynny, canfu ymchwiliad y Pwyllgor i effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 nad yw’r Ddeddf wedi cael effaith ystyrlon ar fywydau llawer o ofalwyr. Mae methu â chael gwybodaeth, cyngor a chymorth mawr ei angen wedi gwneud i lawer o ofalwyr deimlo eu bod wedi mynd yn angof ac yn cael eu tanbrisio. Mae'r Pwyllgor wedi galw ar i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth genedlaethol gadarnach i gefnogi gofalwyr er mwyn gwella'r sefyllfa hon ar frys.

Gofalwyr ifanc

Cymru sydd â'r ganran uchaf o ofalwyr ifanc yn y DU. Mae’r heriau sy’n codi yn sgil bod yn ofalwr ifanc yn golygu eu bod yn wynebu rhagolygon gwaeth na’u cyfoedion ar sawl cyfrif, gan gynnwys o ran cyflogaeth a mynediad at addysg uwch. 

Er hynny, yn ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor fod blaenoriaethu gofalwyr ifanc wedi dirywio yn ystod y pum mlynedd diwethaf a'i fod wedi gwaethygu ers i’r Ddeddf gael ei chyflwyno. Fel rhan o'i waith, clywodd y Pwyllgor gan ofalwyr ifanc eu hunain am yr hyn sy'n bwysig iddynt, gan gynnwys gwell ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth o ofalwyr ifanc yn yr ysgol. 

Mae'r Pwyllgor wedi nodi nifer o argymhellion ynglŷn â gofalwyr ifanc, gan gynnwys argymhellion y dylid cryfhau’r canllawiau i ysgolion ynghylch nodi a chefnogi gofalwyr ifanc ac y dylai cynllun cardiau adnabod i ofalwyr ifanc gael ei gyflwyno'n genedlaethol.

Mae Deanndra Wheatland o Abertawe bellach yn 20 oed. Collodd Deanndra ei thad pan oedd hi'n 17 oed ac fe fu hi’n gofalodd am ei mam nes iddi hi farw. Rhoddodd Deanndra dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor, gan rannu ei phrofiad o ofalu am ei mam tra ei bod hi yn yr ysgol. 

“Roedd bod yn ofalwr ifanc yn aml yn gwneud i mi ac eraill deimlo’n flinedig, yn ddig ac yn rhwystredig. Pan oeddwn yn yr ysgol, byddwn yn gofalu am fy mam ochr yn ochr ag astudio ar gyfer TGAU; roedd hyn yn anodd iawn ei reoli. Roedd adegau pan fyddwn i'n treulio'r nos yn yr ysbyty ac yna'n mynd yn syth i'r ysgol; rhai boreau doedd gyda fi ddim amser i baratoi cyn mynd i’r ysgol oherwydd fy mod i'n helpu fy mam. 

“Rwy'n credu bod angen hyfforddiant ar athrawon ynglŷn â beth yw gofalwr ifanc a'r hyn y mae'n rhaid i ofalwyr ddelio ag ef ar ben bod yn yr ysgol. Roedd gyda fi athrawon gwych a roddodd help llaw i fi, gan fod yn gydymdeimladol iawn a rhoi amser ychwanegol imi ar gyfer fy ngwaith cartref. Ond roedd gyda fi rai athrawon nad oedden nhw'n deall o gwbl a bydden nhw’n gwneud bywyd yn eithaf caled, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur fel amser arholiadau. Mae angen i athrawon sylweddoli nad esgus yw hi; mae bod yn ofalwr yn waith caled ac mae angen tipyn bach o slac. Rwy'n credu y dylai athrawon fod yn gyson; dylen nhw i gyd fod yn gydymdeimladol - rwyf hefyd yn credu y dylai fod athrawon penodedig y gall plant siarad â nhw am beth sy'n digwydd gartref.

“Rwy’n adnabod gofalwyr ifanc eraill sydd ddim yn teimlo bod modd siarad ag athrawon a dweud wrthyn nhw beth sy’n digwydd gartref - nid fel hynny y dylai pethau fod; dylai pawb deimlo’n gyffyrddus yn rhoi gwybod iddyn nhw beth sy’n digwydd.

“Mae gofalwyr ifanc yn haeddu hawliau a chydnabyddiaeth am yr hyn maen nhw'n ei wneud. Yn y dyfodol, rwyf am glywed gofalwyr ifanc yn dweud pethau cadarnhaol a dweud wrthyf eu bod wedi cael digon o help a chefnogaeth yn yr ysgol."

Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon:

“Gofalwyr di-dâl yw conglfaen gofal cymunedol. Maent yn gyfrifol am ddarparu'r mwyafrif helaeth o ofal yng Nghymru. 

“Hebddynt, byddai'r system gofal cymdeithasol yn chwalu. Ac eto mae llawer yn teimlo'n anobeithiol, eu bod yn cael eu tanbrisio a’u bod yn cael eu trin heb lawer o barch. 

“Wrth edrych ymlaen, bydd rôl y gofalwr yn dod yn bwysicach fyth o ystyried gofynion poblogaeth sy'n heneiddio ag anghenion iechyd cynyddol gymhleth.

“O ystyried hyn, siom yw clywed nad yw pethau wedi gwella i ofalwyr o dan y Ddeddf. Yn wir, i gynifer o’r rhai y clywsom ganddynt, mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd wedi golygu nad yw gwasanaethau cymorth hanfodol yn cael eu darparu. 

“Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith i sicrhau bod gan ofalwyr yr hawliau a’r gefnogaeth a addawyd o dan y Ddeddf.”

Mae Linda Jaggers o Lyn-nedd yn gofalu am ei gŵr ers 10 mlynedd. Mae gan ei gŵr nifer o broblemau iechyd, gan gynnwys dementia. Mae gan Linda ei phroblemau iechyd ei hun, megis diabetes ac osteoporosis. 


Yn ei thystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor i ofalwyr, dywedodd Linda:

“Fel gofalwr, mae bywyd yn anodd. Rwy'n siarad â llawer o ofalwyr eraill ac mae'n amlwg bod pethau’n anoddach i ofalwyr wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Rwy'n 67 oed ac mae fy ngŵr yn 75 oed, ac mae’n blino rhywun yn gorfforol ac yn emosiynol. Rwy'n llwyddo i fynd i ffwrdd am benwythnos i weld fy ŵyr bob tri mis, ond mae gadael fy ngŵr yn llawer o waith ynddo'i hun; bydd llawer o ffrindiau'n galw heibio i helpu tra byddaf i ffwrdd, ond mae angen llawer o waith cynllunio.

“Es i drwy’r broses o gael asesiad gofalwr - cefais £600 y flwyddyn i helpu i gael rhywfaint o seibiant. Oni bai am fy synnwyr digrifwch da, byddwn yn gweld hyn yn sen. Mae gofalwyr yng Nghymru yn arbed biliynau i'r wladwriaeth bob blwyddyn, ond rydym ni bron yn anweledig. 

“Mae'n ymddangos i mi ac i ofalwyr eraill fod gan y Llywodraeth lawer o fwriadau da ar y lefel uchaf, ond nid yw hynny'n treiddio i lawr i helpu gofalwyr. Mae gofalwyr yn teimlo'n rhwystredig ac yn flinedig, ac maen nhw'n haeddu cydnabyddiaeth am y gwaith caled maen nhw'n ei wneud. Dylen ni fod yn dathlu'r gwaith maen nhw'n ei wneud ac yn cydnabod yr arian maen nhw'n ei arbed i'r Llywodraeth. 

“Gyda chyn lleied o help a chefnogaeth ar gael, nid oes rhyfedd nad yw llawer o ofalwyr am wneud cais am asesiad, gan y gall yn aml fod yn ymwthiol a gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu barnu. Ar hyn o bryd, mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiad mewn modd 'amserol' - mae sawl ffordd o ddehongli hyn, a gall gymryd tri mis iddo ddigwydd, weithiau. Mae tri mis yn amser maith i ofalwr, a gall llawer newid.

“Wrth i’r boblogaeth heneiddio, mae gofalwyr hefyd yn heneiddio. Mae'n teimlo fel ein bod ni'n rhuthro tua’r dibyn ar hyn o bryd. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy i helpu a chefnogi gofalwyr, gan gydnabod y gwaith anweledig maent yn ei wneud, a dylai'r gwasanaethau sydd ar gael fod yn llawer mwy parod i ymateb i anghenion gofalwyr.”

Yn dilyn ymchwiliad cynhwysfawr, ac wedi cymryd tystiolaeth gan arbenigwyr a gofalwyr o bob rhan o Gymru, mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi darparu 31 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru (gweler isod am yr adroddiad llawn), gan gynnwys:

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru baratoi, o fewn chwe mis, gynllun gweithredu clir ar gyfer mynd i'r afael â'r methiannau o ran gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014 

  • Rhaid iddi gynllunio nawr ar gyfer y cynnydd a ragwelir yn nifer y gofalwyr di-dâl

  • Rhaid iddi ymgymryd ag ymgyrch gyhoeddusrwydd fawr i godi ymwybyddiaeth o'r Ddeddf a hawliau gofalwyr o dan y Ddeddf

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Prifysgol De Cymru i gynnal gwerthusiad o’r Ddeddf. Dechreuodd y gwerthusiad ym mis Tachwedd 2018 ac fe’i cyhoeddir yn 2021. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor wedi nodi na ddylai hyn ohirio’r gwaith o weithredu argymhellion yr adroddiad hwn.


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Gofalu am ein dyfodol: Ymchwiliad i effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â gofalwyr (PDF)