Wythnos Senedd Ieuenctid Cymru: Holi’r Prif Weinidog ymhlith cyfres o ddigwyddiadau sy’n rhoi llais i bobl ifanc

Cyhoeddwyd 07/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/07/2020


  • Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn holi'r Prif Weinidog ar ran pobl ifanc 
  • Her bob dydd i ddathlu natur, uwchgylchu hen eitemau cartref a rhoi cynnig ar yoga a meddwlgarwch
  • Beth sydd ar eich meddwl? - Trafodaeth ar sut i wella cefnogaeth iechyd emosiynol a meddyliol

Bydd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn trafod pryderon pobl ifanc yng Nghymru gyda’r Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau Wythnos Senedd Ieuenctid Cymru trwy gydol wythnos olaf y tymor ysgol, 13-17 Gorffennaf. 

Bydd cwestiynau'n amrywio o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu plant a phobl ifanc yn ystod ac ar ôl y pandemig i gwestiynau ynghylch darpariaeth cymorth iechyd meddwl.

Bob dydd mi fydd ysgolion a cholegau ledled Cymru yn cymryd rhan mewn her ddyddiol gan gynnwys tynnu lluniau i ddathlu harddwch naturiol ein hardaloedd lleol, rhoi bywyd newydd i hen blastig, uwchgylchu dillad a rhoi cynnig ar yoga a meddwlgarwch.

Bydd cyfle i leisio barn a rhannu syniadau mewn cyfres o ddadleuon a thrafodaethau ar y pynciau sydd wedi eu dewis fel blaenoriaeth i waith Senedd Ieuenctid Cymru; yr amgylchedd a llygredd plastig, a chymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl. 
Mae croeso i bawb gymryd rhan yn y sesiynau sy’n cael eu cynnal trwy gynhadledd fideo ac mi fydd aelodau Senedd Ieuenctid Cymru hefyd yn rhannu fideos ar gyfryngau cymdeithasol a fydd yn trafod syniadau ac yn annog pobl i gymryd rhan yn y gweithgareddau. 


Cymrwch ran a chodwch eich llais

Mae Arianwen Fox-James, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru sy’n cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed, yn annog pobl ifanc i gymryd rhan; 

“O ystyried popeth sy’n digwydd ar hyn o bryd, rwy’n credu y bydd cymryd rhan yn Wythnos Senedd Ieuenctid Cymru yn dod a chi’n nes at bobl eraill, ac yn help i chi gysylltu gyda’ch Aelod. Dy’ ni ddim yn ddiflas o bell ffordd! Efallai y byddwch chi’n dysgu rhywbeth newydd a diddorol am iechyd meddwl neu am sbwriel a gwastraff plastig. Ro’n i’n siomedig pan fu’n rhaid canslo ein digwyddiadau oherwydd y Coronafeirws, am na fyddwn i’n cael cyfle i gwrdd gyda phobl fel y byddwn ni’n arfer gwneud. Dyna pam rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gallu trefnu digwyddiad ar eich cyfer chi. Rydym ni, fe Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru wedi wynebu’r un heriau a phawb arall yn ystod y cyfnod yma ac rydym ni eisiau cysylltu â rhannu'r pethau yr ydym ni’n teimlo’n angerddol amdano gyda phobl eraill.” 

Yn ôl Ffion Griffith, yr Aelod dros Islwyn, mae mor bwysig ag erioed i bobl ifanc fod yn rhan o wleidyddiaeth; 

“Ar ôl cyfnod ble mae gwleidyddiaeth wedi hawlio’r sylw ym mhob agwedd o’n bywydau, mae’n fwy clir nag erioed bod angen i bobl ifanc fod yn rhan o wleidyddiaeth. Boed chi’n ymwybodol iawn o wleidyddiaeth yn barod neu yn hollol ansicr am yr hyn sy’n mynd ymlaen, mae Wythnos Senedd Ieuenctid Cymru yn gyfle anhygoel i chi gael bod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar eich cyfer - yn benodol ar faterion iechyd meddwl, sbwriel a gwastraff plastig a sgiliau bywyd yn y cwricwlwm sy’n effeithio arnom ni, bobl ifanc. Cymerwch ran yn yr amryw o weithdai, a gweithredwch er mwyn atgyfnerthu eich llais, eich dewis a’ch dyfodol.”

Llywydd y Senedd, Elin Jones AS, fydd yn cadeirio’r sesiwn gyda’r Prif Weinidog ar ddydd Mawrth 14 Gorffennaf. 

“Rwy’n falch fod Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnal y sesiynau hyn trwy gydol yr wythnos. Mae mor bwysig clywed lleisiau plant a phobl ifanc am fod yr argyfwng wedi effeithio ar eu bywydau mewn sawl ffordd, o iechyd meddwl i addysg a mwy,” meddai Elin Jones AS, Llywydd y Senedd.

“Mae’n rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau, gan gynnwys sesiwn gyda’r Prif Weinidog a fydd yn ateb cwestiynau gan Aelodau’r Senedd Ieuenctid ar ran pobl ifanc yng Nghymru. Hon fydd yr ail sesiwn o'i math ac rwy'n edrych ymlaen at gadeirio trafodaeth a fydd, rwy’n siŵr, mor ddiddorol ac yn ennyn cymaint o ddiddordeb â'r cyfarfod cyntaf.

“Mae pynciau trafod yr wythnos yn mynd at galon sut wlad mae pobl ifanc Cymru eisiau byw ynddi yn y dyfodol. Mae'n perthyn iddyn nhw, felly mae'n hanfodol eu bod nhw'n cael dweud eu dweud.”

Heriau a sesiynau dyddiol

Mae’r digwyddiadau'n cychwyn ar ddydd Llun, 13 Gorffennaf, gyda her ffotograffiaeth, fideo gan Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru a sesiwn ryngweithiol i drafod sbwriel a gwastraff plastig.

Bydd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cwrdd â'r Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, ar ddydd Mawrth, 14 Gorffennaf am 13.00.

Yn ogystal â chymryd rhan yn y sesiynau a’r heriau dyddiol, o ddydd Llun tan ddydd Gwener 17 Gorffennaf, bydd cyfres o fideos yn cael eu rhannu a fydd yn denu sylw at waith nifer o sefydliadau a rhanddeiliaid, gan gynnwys:

- SeaQuest - sefydliad gwyddoniaeth a darganfod arfordirol wedi'i leoli ym Mhorthcawl
- Syrffwyr yn Erbyn Carthffosiaeth - mudiad llawr gwlad sy'n mynd i'r afael â llygredd plastig
- Platfform - elusen iechyd meddwl
- Mind Cymru - elusen iechyd meddwl
- PAPYRUS - elusen sy'n ymroddedig i atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc.
- Meic Cymru - Llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.