Y Bil Teithio Llesol yn dangos grym system ddeisebau'r Cynulliad Cenedlaethol - yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor
3 Hydref 2013
Mae Cadeirydd Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi croesawu pasio'r Bil Teithio Llesol (Cymru), gan dynnu sylw ato fel esiampl o'r hyn y gellir ei gyflawni gan system ddeisebau'r Cynulliad.
Mae William Powell AC wedi rhyddhau'r datganiad isod ar ôl i'r Bil gael ei basio mewn pleidlais unfrydol yn y Senedd yr wythnos hon:
"Mae'r Bil Teithio Llesol yn dangos ymrwymiad clir i seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy yng Nghymru.
"Gellir canfod gwreiddiau'r Bil hwn yn system ddeisebau'r Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn deiseb a gyflwynwyd gan Sustrans yn 2007, ac a gafodd ei drafod gan y Pwyllgor.
"Hoffwn longyfarch Sustrans am ei waith caled a'i ddyfalbarhad wrth ymgyrchu dros y ddeddf hon.
"Gobeithio y bydd hyn yn dangos i bawb bod system ddeisebau'r Cynulliad yn ffordd rymus ac uniongyrchol o ddemocratiaeth sy'n gallu cyfrannu at newid sylweddol yng Nghymru, gan gynnwys y gwaith o wneud deddfau newydd."
Roedd y ddeiseb wreiddiol gan Sustran yn galw ar:
"...Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu, cynnal a chadw rhwydwaith o lwybrau di-draffig a rennir."
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y ddeiseb yma.
Gellir canfod rhagor o wybodaeth am system ddeisebau'r Cynulliad Cenedlaethol yma.