Y byd yn edrych ar y Cynulliad Cenedlaethol fel esiampl ar gyfer democratiaeth fodern ar Ddydd Gwyl Dewi

Cyhoeddwyd 28/02/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y byd yn edrych ar y Cynulliad Cenedlaethol fel esiampl ar gyfer democratiaeth fodern ar Ddydd Gwyl Dewi

28 Chwefror 2013

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n nodi Dydd Gwyl Dewi drwy gydnabod enw da cynyddol Cymru ar lwyfan y byd.

Nid yn unig y mae Cymru yn enwog ledled y byd am ei diwylliant, ei golygfeydd, ei hartistiaid, ei phencampwyr a'i chynnyrch, ond mae ei henw da fel esiampl ar gyfer democratiaeth seneddol yn cynyddu ledled y byd.

Mae llawer o gyrff deddfwriaethol, ar lefel ranbarthol a lefel wladwriaethol yn edrych fwyfwy ar y Cynulliad Cenedlaethol i ddarganfod sut y bydd yn craffu ar ddeddfwriaeth a pholisïau, yn ogystal â chyfathrebu â'r cyhoedd ac yn cefnogi Aelodau'r Cynulliad.

Dethlir yr enw da cynyddol hwn mewn digwyddiad yn y Senedd ar 28 Chwefror, a fydd yn nodi Dydd Gwyl Dewi a hefyd Diwrnod y Gymanwlad (sydd ar 11 Mawrth).

Bydd y digwyddiad yn arddangos gwaith artistiaid sydd wedi llwyddo ar lwyfan y byd, yn ogystal â chynnyrch o Gymru a rhai sy'n cynrychioli ac yn hyrwyddo Cymru dramor.

Yn ei haraith groeso bydd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, yn amlinellu'r effaith a gaiff democratiaeth Cymru ledled y byd.

Dywedodd y Llywydd: “Rydym yn falch o ddathlu ein diwylliant a'n treftadaeth gyfoethog ac amrywiol ar Ddydd Gwyl Dewi.

“Mae'n hen bryd i ni ddathlu enw da cynyddol Cymru drwy'r byd fel esiampl o ddemocratiaeth fodern.

“Mor ddiweddar â'r wythnos hon croesewais ddirprwyaeth o Sri Lanka, a ddaeth i weld sut y byddwn yn craffu ar ddeddfwriaeth ac yn darparu cefnogaeth i Aelodau'r Cynulliad er mwyn iddynt fedru rhoi'r gwasanaeth gorau i bobl a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

“Cawn ymweliadau rheolaidd gan seneddwyr sy'n dod mor bell â Trinibad a Thobago, yr Ynysoedd Aland yn y Môr Baltig ac Wganda – sydd oll am ddysgu gennym.

“Yn dilyn ei hymweliad â'r Cynulliad, dywedodd Carolyn Bennett, sy'n Aelod o Senedd Canada, ‘Mae ein dyddiau yma (yn y Cynulliad Cenedlaethol) wedi ein hysbrydoli’, a dywedodd Britt Lundberg, o senedd hunanlywodraethol yr Ynysoedd Aland yn y Môr Baltig ‘Roeddwn yn llawn edmygedd o'r system ddatblygedig iawn sydd yn eich Senedd ifanc, a sylwais ar lawer o bosibiliadau diddorol ar gyfer cyd-weithredu’.

“Felly rydym am ddathlu ein diwrnod cenedlaethol drwy gydnabod ein henw da cynyddol fel arweinydd ar lwyfan y byd o ran democratiaeth seneddol.”

Bu gan Seneddwyr sydd wedi ymweld ddiddordeb penodol yng ngwaith y Cynulliad o ran:

  • strwythur pwyllgorau;

  • prosesau craffu ar ddeddfwriaeth a pholisïau;

  • y system Ddeisebau;

  • y dull gweithredu o ran e-ddemocratiaeth; a'r

  • y system sydd ar waith i gefnogi Aelodau'r Cynulliad.

Bydd dathliadau Dydd Gwyl Dewi y Cynulliad yn cynnwys arddangosfeydd, perfformiadau a stondinau niferus yn y Senedd ar 28 Chwefror, yn dechrau am 12.00 o'r gloch.

Bydd perfformiadau gan fand jazz o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y cyfansoddwr a'r canwr o Gymru Gareth Bonello, ac ymhlith yr arddangosfeydd bydd rhai gan y Ganolfan Gymreig Materion Rhyngwladol, y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a'r British Council.

Ar 1 Mawrth ei hun, bydd y Llywydd yn cynrychioli'r Cynulliad yn y gwasanaeth Dydd Gwyl Dewi yn y ddinas, yn Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr, Caerdydd, tra bydd neges flynyddol Dydd Gwyl Dewi o Esgobaeth Tyddewi yn cael ei derbyn yn y Senedd am 17.00 gan David Melding AC, y Dirprwy Lywydd.